Cyfres manga ydy Ikki Tousen (一騎当千 Ikkitōsen, cyfieithiad: "Cryfder Mil"), sy'n cael ei anabod yn America gyda'r enw Battle Vixens; cafodd ei sgwennu a'i darlunio gan Yuji Shiozaki o Japan, ac yn seiliediag ar hen nofel Tseiniaidd o'r enw Rhamant y Tair Brenhiniaeth. Mae'n stori am frwydrau rhwng milwyr Tōshi (闘士, sef "fighting soldier") yn ardal Kanto, gyda 7 ysgol yn brwydro'n erbyn ei gilydd. Un o'r arwyr ydy Hakufu Sonsaku, milwr sy'n dod o Academi Nanyo.

Cylchgrawn seinen manga o'r enw Comic GUM oedd yn gyntaf, a chafodd ei lansio yn Hydref 2000 gyda 19 cyfrol yn gweld golau dydd.