Genre neu arddull yn y celfyddydau yn America Ladin, yn enwedig Brasil, sydd yn cynnwys cymeriadau a themâu brodorion yr Amerig yw Indianismo a ddylanwadwyd gan Ramantiaeth yr Ewropeaid yn y 19g. Fel rheol, dengys delfrydau syml o fywydau'r brodorion, ac yn aml caent eu portreadu mewn ffyrdd dieithr a sentimental.

Nodweddir y nofel Indianista yn llên Brasil gan lais hiraethus, a theimlad saudade yn bwrw trwyddi. Molir byd natur a'i berthynas unigryw â'r brodorion yn eu cymdeithasau cyntefig.[1] Dygwyd mudiad Indianismo gan José de Alencar yn ei nofel arloesol O Guarani (1857): dyma'r esiampl gyntaf yn llên America Ladin o bortread nodweddiadol Ramantaidd o fywyd brodorion yr Amerig, ac yn cynnwys yr enwau brodorol am blanhigion ac anifeiliaid a disgrifiadau sentimental o'u traddodiadau.

Yn nechrau'r 20g, ymdrechodd llenorion ac arlunwyr America Ladin bortreadu'r brodorion mewn ffyrdd cywirach a mwy realaidd. Sefydlwyd indigenismo fel mudiad llenyddol yn groes i Indianismo gan yr ysgrifwr José Carlos Mariátegui o Beriw, yn ei gyfrol Siete ensayos de interpretación de la realidad peruana (1928), er mwyn dathlu eu cymdeithas a'u diwylliant, ac yn tynnu sylw at yr hanes o ymyleiddio, ecsbloetio, ac erledigaeth yn eu herbyn.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Indianista novel. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Chwefror 2020.