Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol
Mae Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol (Saesneg: International Standard Name Identifier ('ISNI') yn ddull o adnabod hunaniaeth unigryw cyfranwyr i gyfryngau megis y we, llyfr, rhaglenni teledu neu albymau sain. Mae'r dynodwr a ddefnyddir yn cynnwys 16 digid rhifol wedi'i rannu'n bedwar tamaid.
Enw llawn | Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol (International Standard Name Identifier) |
---|---|
Talfyriad | ISNI |
Cyflwynwyd | 15 Mawrth 2012 |
Corff safoni | ISNI-IA |
Nifer o ddigidau | 16 |
Enghraifft | 000000012146438X |
Gwefan | isni.org/ |
Fe'i datblygwyd gan Y Mudiad Rhyngwladol dros Safoni fel Safon Rhyngwladol Ddrafft[1] yn gyntaf cyn ei dderbyn yn ffurfiol ar 15 Mawrth 2012. Fe'i defnyddir i wahaniaethu rhwng enwau pobl (yn enwedig o fewn y cyfryngau) y gellid, fel arall, eu cymysgu.
ORCID
golyguMae dynodwyr ORCID (Open Researcher and Contributor ID) yn flociau o ddynodwyr ISNI a ddefnyddir ar gyfer y byd academaidd yn bennaf.[2] a gaiff ei weinyddu gan gorff cwbwl wahanol.[2] Gall ymchwilwyr yma greu a hawlio dydnodwyr ORIC eu hunain.[3] Mae'r ddau fudiad yn cydweithio'n agos a'i gilydd.[2][3]
Mae gan Wicidata briodwedd, P213, am ISNI (gweler y defnydd ohono) |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Draft International Standard 27729; adalwyd 15 Hydref 2014
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "What is the relationship between ISNI and ORCID?". About ORCID. ORCID. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-10. Cyrchwyd 29 Mawrth 2013.
- ↑ 3.0 3.1 "ISNI and ORCID". ISNI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-04. Cyrchwyd 29 Mawrth 2013.
Dolenni allanol
golyguMae gan Wicidata briodwedd, P213, am ISNI (gweler y defnydd ohono) |