Is-etholiad Gorllewin Casnewydd, 2019
Cynhelir is-etholiad Gorllewin Casnewydd ar gyfer ethol aelod newydd i Senedd y Deyrnas Unedig ar 4 Ebrill 2019, yn dilyn marwolaeth yr AS Llafur Paul Flynn. Dyma'r trydydd is-etholiad a gynhaliwyd yn ystod 57ain Senedd y DU, a etholwyd yn etholiad cyffredinol 2017 .
| |||
Etholaeth Gorllewin Casnewydd | |||
---|---|---|---|
| |||
Lleoliad Gorllewin Casnewydd yng Nghymru | |||
|
Cefndir
golyguYm mis Hydref 2018 nododd yr AS Seneddol, Paul Flynn, ei fwriad i ymddiswyddo yn y dyfodol agos, ar ôl i'w gyflwr arthritis rhiwmatoid.[1] Ar y pryd, dywedodd Flynn y byddai'n aros am etholiad cyffredinol brys, pe bai hynny'n caniatáu iddo sefyll i lawr heb ysgogi isetholiad, gan nodi'r gost sy'n gysylltiedig â threfnu a chynnal un.[1] Bu farw ar 17 Chwefror 2019, yn dilyn "salwch hir".[2]
Mae Llafur wedi cadw Gorllewin Casnewydd ers 1987, pan enillodd Paul Flynn y sedd oddi wrth y Ceidwadwyr. Mae'r etholaeth yn lled-ymylol, gyda mwyafrif Llafur ddim mwy na 10,000 o bleidleisiau ac eithrio yn ystod yr etholiad ysgubol yn 1997 . [3]
Symudwyd y gwys etholiad yn y Senedd ar 28 Chwefror, gan drefnu is-etholiad ar gyfer 4 Ebrill 2019.[4][5]
Ymgeiswyr ac amserlen
golyguRoedd Flynn wedi nodi ei fwriad i sefyll i lawr yn (neu cyn) yr etholiad cyffredinol nesaf a roedd y pleidiau gwleidyddol wedi dechrau dewis ymgeiswyr cyn yr etholiad cyffredinol nesaf yng Ngorllewin Casnewydd. [6]
Dewiswyd y canlynol ar gyfer yr is-etholiad: Jonathan Clark (Plaid Cymru), [7] Matthew Evans (Ceidwadwyr Cymru), Ruth Jones (Llafur Cymru) [5] ac Amelia Womack (Plaid Werdd). [5] Dewisodd UKIP arweinydd Cymru Neil Hamilton.[8] Hefyd bydd ymgeisydd o'r Democratiaid Rhyddfrydol.[5] Mae Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yn bwriadu rhoi ei ymgeisydd Richard Suchorzewski.[9] Cyhoeddodd y Renew Party y byddent yn dewis June Davies. [10]
Dywedodd y Blaid Brexit newydd na fyddai'n sefyll. [5]
Gweinyddir yr etholiad gan Gyngor Dinas Casnewydd, gyda cyhoeddi'r datganiad o bersonau a enwebwyd ar 8 Mawrth 2019. [11]
Plaid | Ymgeisydd | |
---|---|---|
Plaid Cymru | Jonathan Clark | |
Renew | June Davies | |
Ceidwadwyr | Matthew Evans | |
UKIP | Neil Hamilton | |
Llafur | Ruth Jones | |
Rhyddfrydwyr | Ryan Jones | |
SDP | Ian McLean | |
For Britain | Hugh Nicklin | |
Plaid Diddymu Cynulliad Cymru | Richard Suchorzewski | |
Democrats and Veterans | Philip Taylor | |
Y Blaid Werdd | Amelia Womack |
Canlyniad
golyguIsetholiad Gorllewin Casnewydd 2019 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Llafur | Ruth Jones | 9,308 | 39.6 | -12.7 | |
Ceidwadwyr | Matthew Evans | 7,357 | 31.3 | -8.0 | |
Plaid Annibyniaeth y DU | Neil Hamilton | 2,023 | 8.6 | +6.1 | |
Plaid Cymru | Jonathan Clark | 1,185 | 5.0 | +2.6 | |
Democratiaid Rhyddfrydol | Ryan Jones | 1,088 | 4.6 | +2.4 | |
Gwyrdd | Amelia Womack | 924 | 3.9 | +2.8 | |
Renew | June Davies | 879 | 3.7 | +3.7 | |
Diddymu Cynulliad Cymru | Richard Suchorzewski | 205 | 0.9 | +0.9 | |
Democratiaid Cymdeithasol | Ian McLean | 202 | 0.9 | +0.9 | |
Democratiaid a Chyn-filwyr | Philip Taylor | 185 | 0.8 | +0.8 | |
For Britain | Hugh Nicklin | 159 | 0.7 | +0.7 | |
Mwyafrif | 1951 | 8.3 | |||
Y nifer a bleidleisiodd | 37.1 | ||||
Llafur yn cadw | Gogwydd | -2.4 |
Canlyniad blaenorol
golyguAil-etholwyd Paul Flynn i wythfed tymor yn 2017, gyda mwyafrif uwch o 5,658 (13.0%) dros yr ymgeisydd Ceidwadol.
Etholiad cyffredinol 2017: Etholaeth: Gorllewin Casnewydd[12] | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Llafur | Paul Flynn | 22,723 | 52.3 | +11.1 | |
Ceidwadwyr | Angela Jones-Evans | 17,065 | 39.3 | +6.8 | |
Plaid Annibyniaeth y DU | Stan Edwards | 1,100 | 2.5 | -12.7 | |
Plaid Cymru | Morgan Bowler-Brown | 1,077 | 2.5 | -1.5 | |
Democratiaid Rhyddfrydol | Sarah Lockyer | 976 | 2.2 | -1.7 | |
Gwyrdd | Pippa Bartolotti | 497 | 1.1 | -2.0 | |
Y nifer a bleidleisiodd | 43,438 | ||||
Llafur yn cadw | Gogwydd |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Craig, Ian (26 Hydref 2018). "Tributes paid to Paul Flynn following news he is to quit". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
- ↑ "Tributes to veteran Labour MP Flynn". BBC News (yn Saesneg). 18 Chwefror 2019. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
- ↑ "Newport West: 2015 Result". ukpollingreport.co.uk. UK Polling Report. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-19. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
- ↑ "Newport West by-election date announced". BBC News (yn Saesneg). 28 Chwefror 2019. Cyrchwyd 28 Chwefror 2019.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 Craig, Ian (28 Chwefror 2019). "Newport West by-election to be held on April 4 following death of Paul Flynn". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Chwefror 2019.
- ↑ "Green deputy leader selected as Newport West candidate". greenparty.org.uk. Green Party. 23 Tachwedd 2018. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
- ↑ Craig, Ian (10 Chwefror 2019). "Plaid select their Newport West Parliamentary candidate". South Wales Argus. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
- ↑ "Neil Hamilton is Ukip's candidate for the Newport West by-election". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-03-04.
- ↑ Craig, Ian (22 Chwefror 2019). "Party dedicated to abolishing the Welsh Assembly will run in Newport West by-election". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Chwefror 2019.
- ↑ Staff writer (28 Chwefror 2019). "Renew Party announces candidate for Newport West by-election". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Chwefror 2019.
- ↑ Is-etholiad Seneddol Gorllewin Casnewydd Cyngor Dinas Casnewydd
- ↑ Daily Post 10 Mehefin 2017 How Wales Voted - results in detail