Italica

Sefydlwyd dinas Rufeinig Italica (i'r gogledd o Santiponce heddiw, 9 km i'r gogledd-orllewin o Seville, Sbaen) yn y flwyddyn 206 CC gan y cadfridog Rhufeinig Scipio Africanus fel trefedigaeth ar gyfer y milwyr Rhufeinig a anafwyd ym Mrwydr Ilipa, lle gorchfygwyd byddin Carthage yn ystod yr Ail Ryfel Punig. Rhoddwyd yr enw Italica ar y ddinas newydd er mwyn atgoffa'r hen filwyr (colonia) o'u gwreiddiau Eidalaidd a'u cadw'n driw i'r ymerodraeth.

Italica
Delwedd:Amphitheatre Italica, Spain.jpg, Anfiteatro de las ruinas romanas de Itálica, Santiponce, Sevilla, España, 2015-12-06, DD 34-45 PAN HDR.JPG
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
LleoliadSantiponce Edit this on Wikidata
SirSantiponce, Hispania Ulterior, Baetica Edit this on Wikidata
GwladSbaen, Rhufain hynafol Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.4418°N 6.04489°W Edit this on Wikidata
Statws treftadaethBien de Interés Cultural Edit this on Wikidata
Manylion
Erthygl am y ddinas hynafol yw hon. Am y lleng Rufeinig gweler Legio I Italica.
Amffitheatr Italica

Ganwyd yr ymerodron Rhufeinig Trajan a Hadrian yn Italica.

Yn ddiweddarach codwyd amffitheatr anferth yn y ddinas, gyda digon o le i tua 25,000 o bobl, drydedd fwyaf yn yr ymerodraeth.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag of Spain.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Capitoline she-wolf Musei Capitolini MC1181.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato