Ithaca
ynys groeg yn y Môr Ïonaidd
(Ailgyfeiriwyd o Ithaki)
Un o'r Ynysoedd Ionaidd oddi ar arfordir gorllewinol Gwlad Groeg yw Ithaca (Groeg: Ιθάκη, Ithaki). Mae ganddi arwynebedd o 118 km² a phoblogaeth o tua 3,000. Saif i'r gogledd-ddwyrain o ynys fwy Ceffalonia. Y brifddinas yw Vathý, sy'n berchen harbwr naturiol gyda'r mwyaf yn y byd.
![]() | |
Math | ynys, polis ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 3,231 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Santa Marinella ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Ionaidd, Ionian Islands Region, Ynysoedd Ïonaidd o dan reol Fenisaidd, Septinsular Republic, Unol Daleithiau yn yr Ynysoedd Ïonaidd ![]() |
Sir | Kefalonia Prefecture, Bwrdeistref Ithaca ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 116.992 km² ![]() |
Gerllaw | Môr Ionia ![]() |
Cyfesurynnau | 38.42°N 20.67°E ![]() |
Cod post | 283 ![]() |
![]() | |

Cyrhaeddodd Ithaca uchafbwynt ei phwysigrwydd yng nghyfnod y Gwareiddiad Myceneaidd, (1500-1100 CC), pan ddaeth yn brif ganolfan y gwladwriaethau Ceffalonaidd. Mae'n enwog fel cartref yr arwr Odysseus yng ngwaith Homeros. Yn yr Odysseia ceir hanes Odysseus a'i daith adref i Ithaca wedi i'r Groegiaid goncro Caerdroea.