Ivar Aasen
Roedd Ivar Andreas Aasen, (5 Awst 1813 – 23 Medi 1896) yn ieithegwr, geiriadurwr a llenor Norwyaidd, a aned yn Ørsta yn fab i Ivar Jonsson, gwerinwr tlawd.
Ivar Aasen | |
---|---|
Ganwyd | 5 Awst 1813 Ørsta Municipality |
Bu farw | 23 Medi 1896 Christiania |
Man preswyl | Møre og Romsdal |
Dinasyddiaeth | Norwy |
Galwedigaeth | ieithegydd, geiriadurwr, ieithydd, cyfieithydd, llenor, botanegydd, bardd, cyfieithydd y Beibl, cymrodoriaeth, dyddiadurwr |
llofnod | |
Roedd yn genedlaetholwr driw, ac ef oedd creawdwr iaith genedlaethol o'r enw landsmålet (Nynorsk Norwyeg newydd), yn seiliedig ar dafodieithoedd Norwyaidd orllewinol. Cyhoeddodd yn 1836 ei fod am gynllunio 'iaith annibynnol a chenedlaethol' wedi selio ar gyfuniad o dafodieithoedd gwledig a oedd yn disgyn o'r Hen Norseg, i gymryd lle'r iaith Dano-Norwyaidd Riksmål (iaith y wlad). Yn y pen draw, enillodd ei iaith newydd gydnabyddiaeth ochr yn ochr â Riksmål ym 1885. Cyhoeddodd Gramadeg y Tafodieithoedd Norwyaidd ym 1848, ac yna Geiriadur y Tafodieithoedd Norwyaidd ym 1850. Bu farw yn Christiania (Oslo), a chladdwyd ef gydag anrhydeddau cyhoeddus[1].
Cyhoeddiadau
golyguCyhoeddodd Aasen ystod eang o ddeunydd, a rhyddhawyd peth ohono ar ôl ei farwolaeth.
Teitl | teitl wedi ei gyfieithu | Dyddiad cyhoeddi | Math | Sylwadau |
---|---|---|---|---|
Det norske Folkesprogs Grammatik | Gramadeg y Tafodieithoedd Norwyaidd | 1848 | gramadeg | [2] |
Ordbog over det norske Folkesprog | Geiriadur y Tafodieithoedd Norwyaidd | 1850 | geiriadur | [2] |
Symra | Symra | 1863 | Barddoniaeth | [2] |
I Marknaden | Yn y farchnad | 1854 | Drama | [2] |
Ervingen | Yr etifedd | 1855 | Drama | [2] |
Reise-Erindringer og Reise-Indberetninger | Atgofion Teithio ac Adroddiadau Teithio | 1842-1847 | Rhyddiaith | golygwyd gan H. Koht (1917)[2] |
Skrifter i Samling | Ysgrifau, y casgliad | 1912 | Rhyddiaith | 3 cyfrol[2] |
Dikting | Barddoniaeth | 1946 | [2] |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Chambers Biographical Dictionary, cyfrol 1990, gol Magnus Magnusson tud 1 AASEN, Ivar Andreas (1813-96)
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 Bredsdorff, E. L. (1954). "Aasen, Ivar Andreas". In Steinberg, S. H. Cassell's Encyclopædia of World Literature. 1: Articles & Biographies: A-H. New York, NY: Funk & Wagnall's Company. LCCN 54001255