Ivo Andrić

(Ailgyfeiriad o Ivo Andric)

Llenor Iwgoslafaidd yn yr iaith Serbo-Croateg oedd Ivo Andrić (10 Hydref 189213 Mawrth 1975) sy'n nodedig am ei nofelau, straeon byrion, a barddoniaeth sy'n ymwneud â bywyd ym Mosnia yn ystod oes yr Otomaniaid. Enillodd Wobr Lenyddol Nobel yn 1961 "am y grym epig a thrwy'r hyn y mae wedi olrhain themâu a darlunio tynghedau dynol a dynnwyd o hanes ei wlad".[1] Ei gampwaith ydy'r nofel Na Drini ćuprija ("Y Bont ar Afon Drina"; 1945).

Ivo Andrić
Ganwyd10 Hydref 1892 Edit this on Wikidata
Dolac Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mawrth 1975 Edit this on Wikidata
Beograd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, Awstria-Hwngari, Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid, Brenhiniaeth Iwcoslafia, State of Slovenes, Croats and Serbs Edit this on Wikidata
AddysgDoethuriaeth Nauk mewn Athroniaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Graz
  • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Zagreb
  • Prifysgol Fienna
  • Faculty of Philosophy of the Jagiellonian University Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, diplomydd, bardd, awdur ysgrifau Edit this on Wikidata
Swyddllysgennad Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Bridge on the Drina, Omerpaša Latas, Ex Ponto, Bosnian Chronicle, Devil's Yard, O priči i pričanju, Jelena, the Woman Who Is Not, Most na Žepi Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth, nofel, stori fer Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCynghrair Comiwnyddion Iwgoslafia Edit this on Wikidata
PriodMilica Babić-Jovanović Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel, Urdd Arwr Llafur Sosialaidd, Order of the German Eagle Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd i deulu Croataidd ym Mosnia, rhanbarth a oedd ar y pryd dan reolaeth Awstria-Hwngari. Astudiodd ym mhrifysgolion Zagreb, Fienna, Jagiełło (Kraków), a Graz. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, y gyfrol o farddoniaeth Ex Ponto, yn 1918. Ysgrifennodd y gwaith hwnnw yn y carchar yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pryd gafodd ei arestio gan awdurdodau Awstria-Hwngari am iddo ymgyrchu dros annibyniaeth y Slafiaid Deheuol.

Yn sgil sefydlu Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid (1918–29), yn ddiweddarach Teyrnas Iwgoslafia (1929–41), ymunodd Andrić â'r gwasanaeth diplomyddol. Treuliodd y cyfnod rhwng y rhyfeloedd yn Rhufain, Bwcarést, Madrid, a Genefa. Cafodd ei benodi'n llysgennad i'r Almaen yn 1939, pum mis cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd, a daeth ei gyfnod yn y swydd honno i ben wedi i luoedd yr Echel oresgyn Iwgoslafia yn 1941. Dychwelodd Andrić i Beograd, dinas a oedd dan feddiannaeth yr Almaenwyr am weddill y rhyfel. Yn y cyfnod hwn ysgrifennodd Andrić rai o'i weithiau pwysicaf, gan gynnwys Travnička hronika ("Stori Fosniaidd"; 1945) a Na Drini ćuprija.[2]

Bywgraffiad golygu

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Ivan Andrić ar 10 Hydref 1892 ym mhentref Dolac, ger Travnik, ym Mosnia a Hertsegofina, a oedd dan reolaeth Awstria-Hwngari ers 1878, er yr oedd yn swyddogol yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid. Fe'i adnabyddir drwy gydol ei oes gan yr enw anwes Ivo. Croatiaid ethnig oedd ei rieni. Gof arian oedd ei dad, a fu farw pan oedd Ivo yn dair blwydd oed. Aeth i fyw gyda'i fodryb a'i ewythr yn Višegrad. Symudodd Ivo i Sarajevo yn 1903 ac yno mynychodd y Gymansiwm Mawr am wyth mlynedd. Dechreuodd farddoni yn ystod ei ddyddiau ysgol, a chyhoeddodd ei gerdd gyntaf, "U sumrak", yn 1911.

Yn 1912, enillodd Andrić ysgoloriaeth o Napredak, cymdeithas ddiwylliannol ar gyfer Croatiaid ym Mosnia a Hertsegofina, i astudio'r gwyddorau ym Mhrifysgol Zagreb. Symudodd i Brifysgol Fienna yn 1913, ac yno trodd ei sylw at y dyniaethau. Aeth i Kraków, archddugiaeth a gyfeddianwyd gan Awstria-Hwngari, i fynychu Prifysgol Jagiełło yn 1914. Y flwyddyn honno hefyd cyhoeddwyd chwech o'i gerddi prôs yn y flodeugerdd Hrvatska mlada lirika ("Telynegwyr Croataidd Ifainc") gan Gymdeithas y Llenorion Croataidd.

Yn sgil argyfwng Bosnia yn 1908, cafodd y rhanbarth ei gyfeddiannu'n ffurfiol gan Ymerodraeth Awstria-Hwngari gan sefydlu Condominiwm Bosnia a Hertsegofina. Yn ei ieuenctid, bu Andrić yn weithgar mewn grwpiau tanddaearol ym Mosnia a oedd yn gwrthwynebu'r ymerodraeth ac yn dymuno uno'r Croatiaid a'r Serbiaid yn genedl. Ymunodd Andrić â'r garfan chwyldroadol Mlada Bosna ("Bosnia Ifanc") i ymgyrchu dros wladwriaeth annibynnol ac unedig i'r Slafiaid yn y Balcanau.

Dychwelodd Andrić i'w famwlad yn sgil llofruddiaeth yr Archddug Franz Ferdinand ar 28 Mehefin 1914, y digwyddiad a sbardunodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Un o'i gyd-aelodau ym Mlada Bosna oedd y llofrudd, Gavrilo Princip. Oherwydd ei weithgareddau gwleidyddol a'i gysylltiadau â'r chwyldroadwyr, cafodd Andrić ei arestio a'i garcharu am ryw wyth mis, cyn ei ryddhau ym Mawrth 1915. Er hynny, cafodd ei gadw dan glo gan yr awdurdodau am weddill y rhyfel. Am gyfnod cafodd ei alltudio i Ovčarevo, yn agos at ei bentref genedigol, dan oruchwyliad y Ffransisiad lleol. Treuliodd y blynyddoedd hyn yn darllen ffuglen Fedor Dostoevsky ac athroniaeth Søren Kierkegaard, yn dysgu ieithoedd, yn ymchwilio i hanes Bosnia dan reolaeth yr Otomaniaid, ac yn gwneud cymwynas â'i gyd-garcharorion a'r Brodyr Llwydion. Bu hefyd yn dioddef o'r diciâu.

Datganwyd maddeuant cyffredinol i garcharorion gwleidyddol gan Karl I, Ymerawdwr Awstria ar 2 Gorffennaf 1917, ac roedd Andrić felly yn rhydd i deithio. O fewn mis cafodd ei alw i'r fyddin, ond oherwydd ei afiechyd symudodd o un ysbyty i'r llall am weddill y flwyddyn. Er gwaethaf ei gyflwr, a oedd ar adegau yn agos at farw, gweithiodd Andrić fel un o olygyddion y cyfnodolyn Književni Jug ("Y De Llenyddol") yn nechrau 1918. Erbyn y gwanwyn, roedd ei iechyd yn gwella a llwyddodd Andrić gyflawni a chyhoeddi ei lyfr cyntaf, y gyfrol o gerddi prôs Ex Ponto, yng Ngorffennaf 1918.

Ailgofrestrodd Andrić â Phrifysgol Zagreb yn 1918, ac er iddo gyflawni'r gwaith cwrs bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w arholiadau pan ddychwelodd ei afiechyd. Oherwydd amgylchiadau ariannol ei deulu, ceisiodd am waith yn hytrach na pharhau a'i astudiaethau. Ysgrifennodd lythyr at un o'i hen athrawon, a oedd bellach yn weinidog yng nghabinet y llywodraeth newydd, yn ymofyn am swydd lywodraethol yn Nheyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid (Iwgoslafia). Penodwyd Andrić yn is-weinidog yn y Weinyddiaeth Grefydd a fe symudodd i Beograd ym Medi 1919.

Gyrfa ddiplomyddol a gweithiau cynnar golygu

Ymunodd Andrić â'r Weinyddiaeth Dramor yn Chwefror 1920, a chafodd ei ddanfon i gonswliaeth Iwgoslafia yn y Fatican yn Rhufain. Yn niwedd 1920 aeth i Fwcarést, prifddinas Teyrnas Rwmania, i weithio am ddwy flynedd. Fe'i drosglwyddwyd i Trieste, Teyrnas yr Eidal, yn niwedd 1922, ond oherwydd ei afiechyd aeth yn is-gonswl i Graz, Awstria, ar gyngor ei feddyg yn Ionawr 1923. Pasiwyd deddf newydd yn Beograd a oedd yn mynnu bod pob un gwas sifil mewn swyddi o gyfrifoldeb yn meddu ar radd o brifysgol. Daliodd Andrić statws gweithiwr dros dro yn y gonswliaeth tra'n astudio am ddoethuriaeth mewn astudiaethau Slafaidd ym Mhrifysgol Graz. Derbyniodd y radd honno yn 1924 am ei draethawd ymchwil "Die Entwicklung des geistigen Lebens in Bosnien unter der Einwirkung dur Türkischen Herrschaft" (Almaeneg am "Datblygiad Bywyd Ysbrydol ym Mosnia dan Ddylanwad Rheolaeth y Tyrciaid"), a dychwelodd i'w waith yn y gonswliaeth gyda'i gymhwyster newydd.

Cafodd Andrić ei alw'n ôl i Beograd yn niwedd 1924 i weithio ym mhencadlys y Weinyddiaeth Dramor am ddwy flynedd. Fe'i ddanfonwyd yn is-gonswl i swyddfa'r is-gennad ym Marseille, Ffrainc, yn 1926 ac yn ddiweddarach i lysgenhadaeth Iwgoslafia ym Mharis. Aeth i Fadrid, Sbaen, yn is-gonswl yn 1928, ac i Frwsel yn ysgrifennydd y genhadaeth Iwgoslafaidd i Wlad Belg a Lwcsembwrg yn 1929. Yn Ionawr 1930 fe'i ddanfonwyd i Genefa, y Swistir, fel aelod o ddirprwyaeth barhaol Iwgoslafia i Gynghrair y Cenhedloedd. Dychwelodd i Beograd yn 1933 a chafodd ei benodi'n bennaeth yr adran wleidyddol yn y Weinyddiaeth Dramor. Daeth Andrić yn gynorthwy-ydd i Milan Stojadinović, Prif Weinidog a Gweinidog Tramor Iwgoslafia, yn Nhachwedd 1937.

Penodwyd i'w swydd ddiplomyddol olaf yn 1939, a honno yn llysgennad Iwgoslafia i'r Almaen. Ymddiswyddodd ar 5 Ebrill 1941, wedi i Iwgoslafia arwyddo'r Cytundeb Tridarn ac ymgynghreirio â Phwerau'r Echel. Ychydig oriau'n hwyrach, cafodd Iwgoslafia ei oresgyn gan luoedd yr Echel yn sgil coup d'état yn Beograd. Dychwelodd Andrić i Beograd, dan feddiannaeth yr Almaenwyr, ym Mehefin 1941, a bu'n rhaid iddo ymddeol o'r gwasanaeth diplomyddol.

Anterth ei yrfa lenyddol golygu

Diwedd ei oes golygu

Bu farw yn Beograd ar 13 Mawrth 1975 yn 82 oed.

Llyfryddiaeth golygu

Barddoniaeth golygu

  • Ex Ponto (Zagreb: Književni jug, 1918)
  • Nemiri (Zagreb: Sv. Kugli, 1920).

Nofelau a straeon byrion hirion golygu

  • Put Alije Đerzeleza (Beograd: S. B. Cvijanović, 1920)
  • Na Drini ćuprija (Beograd: Prosveta, 1945).
  • Travnička hronika (Beograd: Državni izdavački zavod Jugoslavije, 1945).
  • Gospođica (Beograd: Svjetlost, 1945).
  • Priča o vezirovom slonu (Zagreb: Nakladni zavod Hrvatske, 1948).
  • Priča o kmetu Simanu (Zagreb: Novo pokoljenje, 1949).
  • Prokleta avlija (Novi Sad: Matica srpska, 1954).

Casgliadau o straeon byrion golygu

  • Pripovetke I (Beograd: Srpska književna zadruga, 1924).
  • Pripovetke (Beograd: Srpska književna zadruga, 1931).
  • Pripovetke II (Beograd: Srpska književna zadruga, 1936).
  • Izabrane pripovetke (Sarajevo: Svjetlost, 1945).
  • Most na Žepi: Pripovetke (Beograd: Prosveta, 1947).
  • Pripovijetke (Zagreb: Matica Hrvatska, 1947).
  • Nove pripovetke (Beograd: Kultura, 1948).
  • Pod gradićem: Pripovetke o životu bosanskog sela (Sarajevo: Seljačka knjiga, 1952).
  • Panorama (Beograd: Prosveta, 1958).
  • Priča o vezirovom slonu, i druge pripovetke (Beograd: Rad, 1960).
  • Ljubav u kasabi: Pripovetke (Beograd: Nolit, 1966).
  • Aska i vuk: Pripovetke (Beograd: Prosveta, 1968).

Ysgrifau golygu

  • Eseji i kritike (Sarajevo: Svjetlost, 1976).

Llythyrau golygu

  • Pisma (1912–1973): Privatna pošta (Novi Sad: Matica srpska, 2000).

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1961", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 21 Gorffennaf 2019.
  2. (Saesneg) Ivo Andrić. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Gorffennaf 2019.