Mae jôc bwlb golau yn jôc fformiwla ddwy linell sy'n gwneud hwyl ar ben grŵp o bobl.

Bwlb Golau

Yn ddelfrydol, mae'r llinell olaf yn nodi nodweddion/rhagfarnau penodol am y grŵp hwn o bobl.

Fformiwla

golygu

Cwestiwn: Sawl___ sy' eisiau i newid bwlb golau?
Ateb: ___ i ___, a ___ i ___

Cwestiwn: Sawl___ sy' eisiau i newid bwlb golau?
Ateb: Pump - mae un yn sefyll ar yr ysgol ac yn dal y lamp, a'r 4 arall i droi'r ysgol.

Enghreifftiau

golygu

Cwestiwn: Sawl myfyriwr sy' eisiau i newid bwlb golau?
Ateb: Un i ddal y bwlb yn y soced a naw arall i feddwi nes bydd yr ystafell yn troi

Cwestiwn: Sawl pysgotwr sy' eisiau i newid bwlb golau?
Ateb: Pump, un i newid y bwlb, y pedwar arall i ddadlau am ba mor fawr oedd

Cwestiwn: Sawl Siôn Corn sy' eisiau i newid bwlb golau?
Ateb: Stim ond un Siôn Corn

Amrywiaethau

golygu

Cwestiwn: Sawl gwleidydd sy' eisiau i newid bwlb golau?
Ateb: Dydan ni ddim yn gallu cyhoeddi'r niferoedd ar hyn o bryd, ond mae'r ffigyrau'n llawer gwell na'r flwyddyn ddiwethaf

Cwestiwn: Sawl cyfieithwr Cymraeg sy' eisiau i newid bwlb golau?
Ateb: Awgrymir chweugain cyfieithydd cymerwystedig ar ddeg i weithredu gweithdrefn cyfnewid y ffynhonnell golau drydanol arfaethedig - tra fo angenrheidrwydd bymtheg namyn chwe chyfieithydd atodol er mwyn strwythuro gwiriad ansawdd tryloywder terfynol gan ni oddieithr ystod o adborth cadarnhaol.

Cwestiwn: Sawl person o'r adran IT sy' eisiau i newid bwlb golau?
Ateb: Troi'r golau i ffwrdd ac wedi trio tro ymlaen eto


Cwestiwn: Sawl economegwr sy' eisiau i newid bwlb golau?
Ateb: Dim, os bydd eisiau newid y bwlb, bydd y farchnad rydd yn ei wneud

Cwestiwn: Sawl ffeminist sy' eisiau i newid bwlb golau?
Ateb: Un! – Oes gyda ti broblem gyda hynny?

Cwestiwn: Sawl Goth sy' eisiau i newid bwlb golau?
Ateb: Dydy Goths ddim angen golau... a dydan nhw ddim yn chwerthin am jôcs chwaith!

Cwestiwn: Sawl aelod o Orsedd y Beirdd sy' eisiau i newid bwlb golau?
Ateb: Dydy'r Orsedd ddim yn credu mewn newid

Cwestiwn: Sawl Bwdhydd sy' eisiau i newid bwlb golau?
Ateb: Mae rhaid i newid dod o tu mewn

Cwestiwn: Sawl Trotskywr sy' eisiau i newid bwlb golau?
Ateb: Dydy Trotskywyr byth wedi newid dim byd

Cwestiwn: Sawl Anarchydd sy' eisiau i newid bwlb golau?
Ateb: Nid y bwlb ond y system sy' eisiau ei newid