John Dyfnallt Owen

gweinidog, bardd, llenor, newyddiadurwr ac Archdderwydd Cymru
(Ailgyfeiriad o J. Dyfnallt Owen)

Gweinidog, llenor a bardd Cymraeg oedd John Dyfnallt Owen, enw barddol Dyfnallt (7 Ebrill 187328 Rhagfyr 1956).

John Dyfnallt Owen
FfugenwDyfnallt Edit this on Wikidata
Ganwyd7 Ebrill 1873 Edit this on Wikidata
Llan-giwg Edit this on Wikidata
Bu farw28 Rhagfyr 1956 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, gweinidog bugeiliol, Archdderwydd Edit this on Wikidata
PlantMeirion Dyfnallt Owen, Geraint Dyfnallt Owen Edit this on Wikidata

Ganed Dyfnallt yn Llangiwg, Morgannwg, yn fab i Daniel ac Angharad Owen. Collodd ei fam pan oedd yn flwydd oed a magwyd ef gan rieni ei dad. Addysgwyd ef Nghwmllynfell a bu'n lowr am gyfnod, cyn mynd i Academi Parcyfelfed, Caerfyrddin, ac wedyn i Goleg Bala-Bangor yn 1894. Daeth yn wedinidog i'r Annibynwyr ym mhentref Trawsfynydd o 1898 hyd 1902, a bu'n ddylanwad ar Hedd Wyn. Symundodd wedyn i Deiniolen, lle bu hyd 1905, gan ddod i adnabod T. Gwynn Jones a W. J. Gruffydd. Yn 1904 priododd Annie Hopkin, gan gael dau o blant.

Yn 1905 symudodd i Bontypridd, a thra yno enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1907 am gerdd ar Y greal sanctaidd. Daeth yn aelod o'r Gyngres Geltaidd yn 1908. Yn 1910 symudodd i Gaerfyrddin, lle bu hyd ei ymddeoliad. Daeth yn olygydd Y Tyst yn 1927. Wedi'r Ail Ryfel Byd, rhoddodd loches yn ei gartref i Roparz Hemon, oedd wedi gorfod dianc o Lydaw. Etholwyd ef yn Archdderwydd yn 1954 yn Y Rhyl.

Cyhoeddiadau golygu

  • Y greal a cherddi eraill (1946)
  • Ar y tŵr (1953)
  • O ben tir Llydaw (1934)
  • Min yr hwyr (1934)
  • Rhamant a rhyddid (1952)