Jak Jones
Chwaraewr snwcer o Gymru yw Jak Jones (ganwyd 29 Gorffennaf 1993). Cafodd ei eni yng Nghwmbran.
Jak Jones | |
---|---|
Ganwyd | 29 Gorffennaf 1993 Cwmbrân |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr snwcer |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Gyrfa
golyguDaeth Jones yn chwaraewr proffesiynol yn 2010 yn 16 oed, trwy ennill Pencampwriaeth Snwcer Ewropeaidd 2010 dan 19 ym Malta.[1] Yn ei flwyddyn gyntaf ar y daith proffesiynol, enillodd Jones un gêm yn unig.[2][3] Gorffennodd ei dymor cyntaf yn safle rhif 94 y byd. Cafodd ei ddiswyddo o'r daith gan na orffennodd yn y 64 uchaf.[2][4]
Pencampwriaeth Snwcer y Byd
golyguYn 2024 cyrhaeddodd rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd, a gynhaliwyd yn y Crucible yn Sheffield ar 5 a 6 Mai 2024. Ar y pryd roedd yn safle 44 yn rhestr detholion y byd. Er mwyn cyrraedd y ffeinal curodd Zhang Anda, Si Jiahui, Judd Trump a Stuart Bingham.[5]
Chwaraeodd Jones yn erbyn Kyren Wilson yn y ffeinal. Er yr oedd Jones yn colli 7-1 ar ôl y sesiwn gyntaf, brwydrodd yn ôl i 15-10 erbyn prynhawn Llun. Yn y pendraw enillodd Wilson o 18-14 ffrâm. Cafodd Jones ail wobr o £200,000 a dringodd o safle 44 i 14.[6]
Beirniadodd dau o wrthwynebwyr coll Jones, Judd Trump a Stuart Bingham, ei arddull chwarae, gan gwyno am ei agwedd dactegol. Atebodd Jones fod y sylwadau yn esgus.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "2010 European Under 19 Championship". Global Snooker. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mai 2014. Cyrchwyd 14 Mehefin 2013.
- ↑ 2.0 2.1 "Jak Jones 2010/2011". Snooker.org. Cyrchwyd 14 June 2013.
- ↑ "Order of Merit 2010/2011" (yn Saesneg). Snooker.org. Cyrchwyd 14 Mehefin 2013.
- ↑ "Rankings after 2011 World Championship" (PDF). worldsnooker.com (yn Saesneg). World Professional Billiards and Snooker Association. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 14 Mehefin 2012. Cyrchwyd 4 Mai 2011.
- ↑ "Jak Jones drwodd i rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd". BBC Cymru Fyw. 2024-05-04. Cyrchwyd 2024-05-04.
- ↑ "Jak Jones: 'Ddois i'n agos y tro hwn - wna'i ennill yn y dyfodol'". BBC Cymru Fyw. 2024-05-07. Cyrchwyd 2024-05-07.
- ↑ Steve Sutcliffe (5 Mai 2024). "Jones calls criticism of playing style 'pathetic'". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Mai 2024.