James Davies (gwleidydd)

Gwleidydd yw James Michael Davies (ganwyd 27 Chwefror 1980) sy'n Aelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd. Yn etholiad 2015, cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol (AS) ar gyfer Dyffryn Clwyd gyda 39% o'r bleidlais, o flaen yr aelod blaenorol, Chris Ruane a gafodd 38.4% o'r bleidlais. Daliodd Ruane y sedd am 18 mlynedd ond enillodd Davies o 237 pleidlais.

James Davies
AS
Aelod Seneddol
dros Ddyffryn Clwyd
Yn ei swydd
Dechrau
13 Rhagfyr 2019
Rhagflaenydd Chris Ruane
Mwyafrif 1,827 (4.9%)
Yn ei swydd
8 Mai 2015 – 3 Mai 2017
Rhagflaenydd Chris Ruane
Olynydd Chris Ruane
Manylion personol
Ganwyd (1980-02-27) 27 Chwefror 1980 (44 oed)
Llanelwy
Cenedligrwydd Prydeinig
Plaid wleidyddol Ceidwadwyr
Gŵr neu wraig Nina

Yn etholiad brys 2017, daeth tro ar fyd, gyda James Davies yn colli i Chris Ruane o 2,379 gyda Llafur yn ennill 50.4% o'r bleidlais. Yn etholiad 2019 llwyddodd Davies i adennill y sedd gyda mwyafrif o 1,827.

Bywyd personol golygu

Ganwyd Davies yn Llanelwy o fewn ei etholaeth, sydd yn gallu rhoi ei linach yn yr ardal o saith cenhedlaeth. Cafodd ei addysgu yn breifat yn Ysgol y Frenin, Caer. Mae'n feddyg sydd yn arbenigo mewn dementia. Cafodd Davies ei ethol i Gyngor Prestatyn yn 2004. Mae'n briod gyda Nina ac mae ganddynt ddau fab.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Chris Ruane
Aelod Seneddol dros Dyffryn Clwyd
2015 – 2017
Olynydd:
Chris Ruane
Rhagflaenydd:
Chris Ruane
Aelod Seneddol dros Dyffryn Clwyd
2019
Olynydd:
deiliad

Cyfeiriadau golygu