James Dean
Actor ffilm o'r Unol Daleithiau enwog oedd James Byron Dean (8 Chwefror 1931 – 30 Medi 1955). Cafodd ei hyfforddiant yn yr Actors' Studio enwog yn Efrog Newydd. Roedd yn ffigwr cwlt yn ei oes ac mae'n un o'r eiconau pop mwyaf cyfarwydd. Fel yn achos Marilyn Monroe, eicon pop arall, bu farw James Dean yn drasig o ifanc, mewn damwain modur. Er ei fod yn ffigwr mor ddylanwadol dim ond tair ffilm a wnaeth; rhyddhawyd yr olaf, Giant, ar ôl ei farwolaeth.
James Dean | |
---|---|
Ganwyd | James Byron Dean 8 Chwefror 1931 Marion |
Bu farw | 30 Medi 1955 Cholame |
Man preswyl | Cholame, Fairmount, Efrog Newydd, Marion, Santa Monica |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, actor teledu, actor llwyfan, gyrrwr ceir cyflym, actor |
Cyflogwr | |
Taldra | 171 centimetr |
Tad | Winton Dean |
Mam | Mildred Marie Wilson |
Gwobr/au | Gwobr Henrietta, Gwobr y 'Theatre World', seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Gwefan | http://www.jamesdean.com/ |
Chwaraeon | |
llofnod | |
Ffilmiau
golygu- East of Eden (1955)
- Rebel Without a Cause (1955)
- Giant (1956)
Eginyn erthygl sydd uchod am actor o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.