Myfyriwr Tsiecaidd oedd Jan Palach (11 Awst 194819 Ionawr 1969), a losgodd ei hunan i farwolaeth ym Mhrag yn Ionawr 1969 mewn protest yn erbyn goresgyniad Tsiecoslofacia gan luoedd Cytundeb Warsaw yn sgîl Gwanwyn Prag. Rhoddodd ei hun ar dân ar yr 16ed o Ionawr, a bu farw tridiau wedyn ar y 19fed.

Jan Palach
Ganwyd11 Awst 1948 Edit this on Wikidata
Londýnská, Všetaty Edit this on Wikidata
Bu farw19 Ionawr 1969 Edit this on Wikidata
Prag, Borůvkovo hospital Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Tsiecoslofacia, Gwladwriaeth Sosialaidd Tsiecoslofac, Tsiecoslofacia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Cyfadran y Celfyddydau, Prifysgol Charles yn Prag
  • Gymnázium Jana Palacha Edit this on Wikidata
Galwedigaethmyfyriwr mewn prifysgol Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of Tomáš Garrigue Masaryk, 1st class, Čestná medaile T. G. Masaryka Edit this on Wikidata
Cofeb yn Sgwâr Václavské, Prag, i Jan Palach ac i Jan Zajíc, myfyriwr arall a losgodd ei hunan rhyw fis ar ôl protest Palach

Trodd angladd Palach yn brotest fawr yn erbyn y goresgynwyr Sofietaidd. Fis yn ddiweddarach (ar 25 Chwefror), llosgodd myfyriwr arall, Jan Zajíc, ei hun i farwolaeth yn yr un lle. Dilynwyd hyn ym mis Ebrill yr un flwyddyn gan Evžen Plocek yn Jihlava, a chan eraill wedyn. Efelychwyd y weithred hon (hunan-losgi) mewn gwledydd eraill Cytundeb Warsaw, ee yn Hwngari Sándor Bauer ar 20 Ionawr 1969 a Hwngariad arall, Márton Moyses ar 13 Chwefror 1970.

Cyfeiriadau golygu