Jasper Johns
Arlunydd Americanaidd yw Jasper Johns (ganwyd 15 Mai 1930) a gysylltir â'r mudiad celfyddyd bop.
Jasper Johns | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mai 1930 Augusta |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, dylunydd gwisgoedd, cynllunydd, ffotograffydd, arlunydd graffig, gwneuthurwr printiau, darlunydd, artist, arlunydd |
Blodeuodd | 1930, 1929 |
Adnabyddus am | Target with Four Faces, Three Flags, Map |
Arddull | celf haniaethol, bywyd llonydd, figure |
Mudiad | Neo-Dada |
Gwobr/au | Praemium Imperiale, Y Medal Celf Cenedlaethol, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
Gwefan | http://www.jasperjohns.com/ |
Ganwyd yn Augusta yn nhalaith Georgia. Astudiodd am flwyddyn ym Mhrifysgol De Carolina cyn iddo symud i Ddinas Efrog Newydd i weithio fel arlunydd.
Ym 1954 fe gychwynnodd ar ei gyfres enwog o beintiadau o'r faner Americanaidd. Peintiodd destunau dau ddimensiwn megis baneri, mapiau, labeli, rhifau, a llythrennau mewn lliwiau syml a gyda thechneg llosgliw, hynny yw pigmentau wedi cymysgu â chwyr poeth. Yn ôl beirniad ym mhapur newydd The Times, ymddengys ei waith petai'n "ymdrech i gynhyrchu peth prin a gwerthfawr drwy ymdrafferthu â gwrthrych sydd yn y bôn yn anystwyth, yn fud ac yn anniddorol".[1]
Ym 1961, dechreuodd Johns osod gwrthrychau ar ei gynfasau. Newidiodd ei arddull yn y 1970au gyda'i crosshatchings: casgliadau o linellau cyfochrog, weithiau yn ddu a gwyn. Yn y 1980au, darluniodd elfennau ffigurol a chyfeiriadau at ei fywyd yn ei beintiadau.
Derbyniodd Wobr Gelfyddyd Wolf ym 1986, wobr beintio y Praemium Imperiale ym 1993, a Medal Rhyddid yr Arlywydd yn 2011.