Seicolegydd Swisaidd oedd Jean Piaget (9 Awst 189616 Medi 1980). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ddamcaniaeth datblygiad gwybyddol mewn plant.

Jean Piaget
GanwydJean William Fritz Piaget Edit this on Wikidata
9 Awst 1896 Edit this on Wikidata
Neuchâtel Edit this on Wikidata
Bu farw16 Medi 1980 Edit this on Wikidata
Genefa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethY Swistir Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Neuchâtel Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Otto Fuhrmann Edit this on Wikidata
Galwedigaethseicolegydd, swolegydd, rhesymegwr, athronydd, academydd, malacolegydd, biolegydd, addysgwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Prif ddylanwadImmanuel Kant Edit this on Wikidata
TadArthur Piaget Edit this on Wikidata
PriodValentine Piaget Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Erasmus, Gwobr Balza, Career Achievement Award for Distinguished Psychological Contributions to Education, Gwobr APA am Cyfraniadau Gwyddonol Difreintiedig i Seicoleg, Award for Distinguished Contributions to Developmental Psychology Edit this on Wikidata

Gwelodd Piaget bedwar prif gyfnod o ddatblygiad mewn plentyndod:

  1. Y cyfnod cynhwyraidd-symudol (0–2 oed) – Mae plant yn defnyddio'u synhwyrau a'u symudiadau i ddarganfod eu hunain a'u hamgylchedd.
  2. Y cyfnod cyn-weithredol (2–7 oed) – Mae plant yn dysgu drwy brofiadau gyda gwrthrychau go iawn. Maent yn credu bod gan wrthrychau ymwybyddiaeth. Maent yn methu ag amgyffred cyfaint a rhifau.
  3. Y cyfnod gweithredol diriaethol (7–11 oed) – Mae plant yn dal i ddysgu drwy brofiadau gyda gwrthrychau go iawn. Nid ydynt yn credu bod gan wrthrychau ymwybyddiaeth erbyn hyn. Maent yn deall nifer a hyd.
  4. Y cyfnod gweithredol ffurfiol (12 – oedolyn) – Mae plant yn datblygu cysyniadau haniaethol, ac yn gallu defnyddio rhesymeg a meddwl yn rhesymegol.

Enillodd Wobr Erasmus ym 1972.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Former Laureates: Jean Piaget". Praemium Erasmianum Foundation. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2017.[dolen marw]
   Eginyn erthygl sydd uchod am Swisiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.