Jbel Toubkal
(Ailgyfeiriad o Jebel Toubkal)
Jbel Toubkal neu Djebel Toubkal (Arabeg; Berbereg Adra N' Dern, 4167 m), a elwir hefyd yn Fynydd Toubkal weithiau, yw copa uchaf yr Atlas Uchel ym Mynyddoedd yr Atlas a mynydd uchaf Gogledd Affrica. Mae'n gorwedd yng nghanolbarth Moroco 63 km i'r de o ddinas Marrakech, yn nhalaith Al Haouz, sy'n rhan o ranbarth Marrakech-Tensift-El Haouz, o fewn y parc cenedlaethol a enwir ar ei ôl.
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Al Haouz |
Gwlad | Moroco |
Uwch y môr | 4,167 metr |
Cyfesurynnau | 31.0619°N 7.9161°W |
Amlygrwydd | 3,756 ±1 metr |
Cadwyn fynydd | Atlas Uchel |
Yn yr iaith Amazigh (u o'r ieithoedd Berber), gelwir Jbel Toubkal yn Adrar N' Dern (Mynydd Dern).