Jeff Gordon
Gyrrwr ceir o'r Unol Daleithiau yw Jeff Gordon (ganwyd 4 Awst 1971, Vallejo, Califfornia. Roedd yn bencampwr cyffredinol rasio NASCAR bedair gwaith ym 1995, 1997, 1998, a 2001. Mae hefyd yn bencampwr y Daytona 500 dair gwaith. Enillodd y gyfres Sprint Cup dair gwaith.
Jeff Gordon | |
---|---|
Ganwyd | 4 Awst 1971 Vallejo |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | perchennog NASCAR, gyrrwr ceir cyflym, cyflwynydd chwaraeon |
Cyflogwr | |
Taldra | 1.73 metr |
Pwysau | 68 cilogram |
Priod | Ingrid Vandebosch |
Gwefan | https://jeffgordon.com |
Chwaraeon |
Mae'n gyd-berchennog gyda Rick Hendrick ar dîm #48 Lowe's Chevrolet sy'n cael ei yrru gan Jimmie Johnson, sydd hefyd wedi ennill y Cwpan Sprint NASCAR yn 2006, 2007, 2008, a 2009.
Gordon oedd y gyrrwr NASCAR cyntaf i ennill cyfanswm o $100 miliwn yn ystod ei yrfa. Ef hefyd oedd y gyrrwr cyflymaf yn hanes NASCAR i allu cyflawni 50 buddugoliaeth. Hyd yn hyn, mae Gordon wedi ennill ras NASCAR 82 o weithiau.
Dolenni allanol
golygu- Safle swyddogol (Saesneg)
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.