Awdures plant Americanaidd oedd Joanna Cole (11 Awst 194412 Gorffennaf 2020), bu hefyd yn ysgrifennu o dan y ffugenw B. J. Barnet. Roedd yn hefyd athrawes gwyddoniaeth. Roedd yn fwyaf adnabyddus fel awdures y gyfres llyfrau i blant The Magic School Bus. Ysgrifennodd Joanna Cole dros 250 o lyfrau yn amrywio o'i llyfr cyntaf "Cockroach" i'w chyfres enwocaf Magic School Bus.

Joanna Cole
Ganwyd11 Awst 1944 Edit this on Wikidata
Newark, New Jersey Edit this on Wikidata
Bu farw12 Gorffennaf 2020 Edit this on Wikidata
o ffibrosis ysgyfeiniol idiopathig Edit this on Wikidata
Sioux City Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, llyfrgellydd, awdur plant Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Newark, New Jersey a magwyd yn East Orange gerllaw. Roedd yn hoff o wyddoniaeth pan oedd yn blentyn, ac yn dweud y bu ganddi athrawes a oedd yn debyg i Ms. Frizzle. Mynychodd Prifysgol Massachusetts a Phrifysgol Indiana cyn graddio o Goleg Dinas Efrog Newydd gyda gradd B.A. mewn seicoleg. Wedi cwblhau rhai cyrsiau i raddedigion, treuliodd flwyddyn yn gweithio fel llyfrgellydd mewn ysgol elfennol yn Brooklyn. Yn ddiweddarach, daeth Cole yn gohebydd llythyron Newsweek, ac yn uwch-olygydd Darllenwyr Ifanc ar gyfer Doubleday Books.

Bu farw yn Sioux City, Iowa yn 75 mlwydd oed.[1]

Dolenni allanol golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiiadau golygu