Johann Amerbach
Argraffwr o'r Almaen oedd Johann Amerbach (tua 1443 – 1513) a oedd yn un o brif gyhoeddwyr Basel yng nghyfnod yr incwnabwla.
Johann Amerbach | |
---|---|
Ganwyd | 1440, c. 1441 Amorbach |
Bu farw | 25 Rhagfyr 1513 Basel |
Dinasyddiaeth | yr Almaen, Y Swistir |
Galwedigaeth | argraffydd, cyhoeddwr |
Plant | Margaretha Amerbach, Basilius Amerbach, Bonifacius Amerbach, Bruno Amerbach |
Ganed yn Amerbach, tref a oedd ar y pryd yn rhan o Dywysog-Esgobaeth Würzburg, yn rhanbarth Ffranconia. Astudiodd ym Mharis gyda Johann Heynlin von Stein, yr ysgolhaig o ddyneiddiwr a gyflwynodd y wasg argraffu i Ffrainc. Mae'n debyg i Amerbach ei hun ddysgu ei grefft yn Fenis, ac oddi yno symudodd i Basel i sefydlu ei gwmni argraffu.[1]
Cychwynnodd ar ei yrfa yn cyhoeddi gwerslyfrau ysgolaidd traddodiadol gyda chymorth Johann Froben a Johann Petri. Enillodd enw iddo'i hun drwy gyhoeddi testunau ar bynciau dyneiddiaeth a phatristeg. Gweithiodd nifer o ddyneiddwyr hyddysg yn olygyddion i Amerbach, gan gynnwys Heynlin, Beatus Rhenanus, Johann Reuchlin, Conrad Pellikan, a Sebastian Brant.[1]
Roedd ei fab ieuangaf, Bonifacius, yn gyfreithegwr o fri.