Diwinydd Lutheraidd o Almaenwr oedd Johann Arndt (27 Rhagfyr 155511 Mai 1621) sy'n nodedig am ei ysgrifeniadau cyfriniol.

Johann Arndt
Ganwyd27 Rhagfyr 1555 Edit this on Wikidata
Ballenstedt Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mai 1621 Edit this on Wikidata
Celle Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAnhalt-Bernburg Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Helmstedt
  • Prifysgol Strasbwrg
  • Prifysgol Basel Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, diwinydd, person Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Edderitz, ger Ballenstedt, yn Nhywysogaeth Anhalt-Köthen. Astudiodd ym mhrifysgolion Helmstadt, Wittenberg, Strasbwrg, a Basel. Fe'i penodwyd yn weinidog yn Badeborn yn 1583, ond cafodd ei ddiswyddo yn 1590 am iddo wrthod tynnu'r lluniau o'i eglwys ac anwybyddu'r gorchymyn i roi'r gorau i allfwrw yn rhan o'r bedydd, arferion a oedd yn groes i ddysgeidiaeth lem y Calfiniaid. Aeth Arndt i Quedlinburg, ac yn 1599 cafodd ei ddanfon i Eglwys Sant Marthin yn Brunswick.[1]

Roedd Arndt yn llenor toreithiog, a gwelir ysbrydoliaeth y cyfrinwyr Sant Bernard o Clairvaux, Johannes Tauler, a Thomas à Kempis yn ei ysgrifeniadau. Ei brif waith yw Vier Bücher vom wahren Christentum (1605–09), a gafodd ei gyfieithu i sawl iaith a'i ddosbarthu ar draws Ewrop yn ystod oes yr awdur. Er iddo gael ei fabwysiadu yn sail i sawl llyfr defosiynol Catholig a Phrotestannaidd, cafodd nifer o Lutheriaid eu digio gan gynnwys y Vier Bücher. Dylanwadwyd ar Philipp Jakob Spener, sefydlwr Pietistiaeth, yn gryf gan waith Arndt.[1]

Symudodd Arndt i Eiseleben yn 1609, ac i Celle yn 1611. Bu farw yn Celle yn 65 oed.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Johann Arndt. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Awst 2019.