John Hartmann

cyfansoddwr a aned yn 1830

Cyfansoddwr o'r Almaen oedd John Hartmann (24 Hydref 18301897). Roedd e'n fab i ffarmwr yng ngwlad Prwsia. Serch ei wreiddiau diarth, cafodd ran mewn codi safonau cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle.

John Hartmann
Ganwyd24 Hydref 1830 Edit this on Wikidata
Bu farw1897 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr Edit this on Wikidata

Gan fod John Hartmann yn dod o deulu cerddorol, dewisodd lle fel cerddor yn ystod ei gyfnod o wasanaeth filwrol. Ni chafodd brofiadau da yn y fyddin Brwsaidd, fodd bynnag, a symudodd i Loegr, lle bu'n arweinydd band sawl catrawd yn y Fyddin Brydeinig. Oherwydd newid yn y rheolau parthed bandfeistri 'r fyddin, rhaid oedd iddo ymddeol o'i waith gyda'r milwyr. Ar ôl dychwelyd i'r Almaen a methu setlo, dychwelodd i Loegr lle bu'n arwain a hyfforddi nifer o fandiau,[1] ac yn eu mysg, Seindorf Arian Dyffryn Nantlle, a hynny o ganol y 1870au hyd y 1890au. Ym 1888, er enghraifft, arweiniodd Hartmann Fand Nantlle mewn perfformiad ar bîr Llandudno yn ystod y ffair Fenisaidd a gynhaliwyd ym mis Medi'r flwyddyn honno. Ar y pryd, roedd yn hyfforddi'r band ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.[2]

Ar un achlysur o leiaf, bu'n rhoi cymorth i fandiau eraill y dyffryn. Ceir sôn fod Seindorf Dulyn wedi cystadlu ym 1877 yn Abergynolwyn dan ei arweiniad ef. Hyfforddwr proffesiynol Seindorf Dyffryn Nantlle gerllaw oedd Hartmann wrth gwrs, ond gofynnodd Seindorf Nebo iddo eu hyfforddi a'u harwain hwythau hefyd. Yr unig ffordd bosib i hynny ddigwydd oedd ei fod gyda Seindorf Nantlle o 6.30 tan 9.00 bob nos, ac yna gyda Seindorf Nebo o 10.00 tan un o'r gloch y bore. Ac felly y bu.

Ar ôl iddo ddychwelyd i Loegr, yn ogystal â hyfforddi chwareuwyr offerynnau pres, bu'n trefnu a chyfansoddi darnau ar gyfer nifer o gyhoeddwyr cerddoriaeth. Ceir sôn yn y wasg am i nifer o'r gweithiau hyn gael eu perfformio mewn eisteddfodau a chyngherddau ar draws Cymru.

Yn ôl y Cyfrifiad, bu'n byw gyda'i deulu yn Llundain rhwng 1881 ac 1891[3] ond bu farw yn Lerpwl ym 1897.[4] Nid oes sôn iddo erioed fyw yng Nghymru.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Bandsman, [1], cyrchwyd 27.11.2022
  2. Caernarvon and Denbigh Herald, 31.8.1888, t.6
  3. Cyfrifiad Battersea, 1881 a Lewisham 1891
  4. Wikipedia, loc. cit.