John Kenneth Galbraith

economegydd a diplomydd Canada-Americanaidd (1908-2006)

Economegydd Canadaidd a dreuliodd ei yrfa yn academydd a swyddog llywodraethol yn Unol Daleithiau America oedd John Kenneth Galbraith OC (15 Hydref 1908 – 29 Ebrill 2006) neu Ken Galbraith. Roedd yn awdur toreithiog, yn ddeallusyn adnabyddus ac yn rhyddfrydwr pybyr. O ran ei economeg, fe arddelai ôl-Keynesiaeth o safbwynt sefydliadol a dadleuodd o blaid mwy o wariant cyhoeddus.

John Kenneth Galbraith
Ganwyd15 Hydref 1908 Edit this on Wikidata
Iona Station Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ebrill 2006 Edit this on Wikidata
Cambridge Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Addysgdoctor honoris causa Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • George Martin Peterson Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd, diplomydd, gwleidydd, academydd, awdur ffeithiol, ysgrifennwr, llysgennad Edit this on Wikidata
SwyddUnited States Ambassador to India Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
Mudiadinstitutional economics, Keynesian economics Edit this on Wikidata
PriodCatherine Galbraith Edit this on Wikidata
PlantPeter W. Galbraith, James K. Galbraith Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Swyddog Urdd Canada, Medal Rhyddid yr Arlywydd, dyneiddiwr, Gwobr Pedwar Rhyddid - Rhyddid rhag Eisiau, Medal Aur Lomonosov, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, dinasyddiaeth anrhydeddus, Gwobr Leontief am Hyrwyddo Meddylfryd Economaidd, Padma Vibhushan mewn Llenyddiaeth ac Addysg, honorary doctor of the Katholieke Universiteit Leuven, Gwobr Lysenko, Padma Bhushan, Distinguished Fellow of the American Economic Association Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Iona Station, pentrefan yn Ontario, a chafodd ei fagu ar fferm. Astudiodd gyrsiau amaeth yng Ngholeg Amaethyddol Ontario (Prifysgol Toronto) cyn iddo ennill ei radd meistr a'i ddoethuriaeth ar bwnc economeg amaethyddol o Brifysgol Califfornia, Berkeley. Addysgodd fyfyrwyr fel tiwtor ym Mhrifysgol Harvard (1934–39) a dirprwy athro yn Princeton (1939–42).[1] Daeth yn ddinesydd Americanaidd yn 1937, ond cafodd ei wrthod o'r fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd am iddo fod yn rhy dal.[2] Bu'n olygydd y cylchgrawn Fortune o 1943 i 1948 cyn iddo ddychwelyd i Harvard i gymryd swydd athro economeg am weddill ei yrfa academaidd. Cafodd ei benodi'n athro emeritws yno yn 1975.

Gwasanaethodd yng ngweinyddiaethau Democrataidd yr Arlywyddion Roosevelt, Truman, Kennedy, a Johnson. Roedd yn llysgennad UDA i India o 1961 i 1963, ac yn un o gynllunwyr rhaglen les "y Gymdeithas Fawr". Ymhlith ei lyfrau mae American Capitalism (1952), The Great Crash, 1929 (1955), The Affluent Society (1958), a The New Industrial State (1967), a The Anatomy of Power (1983).

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Professor J. K. Galbraith[dolen marw]", The Independent (30 Ebrill 2006). Adalwyd ar 29 Mai 2018.
  2. (Saesneg) Holcomb B. Noble a Douglas Martin, "John Kenneth Galbraith, 97, Dies; Economist Held a Mirror to Society", The New York Times (30 Ebrill 2006). Adalwyd ar 29 Mai 2018.