John Lewis (AS Ceredigion 1604)
Roedd Syr John Lewis (tua 1580 - tua 1656) yn fonheddwr tirfeddiannwr a gwasanaethydd cyhoeddus a gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceredigion.[1]
John Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 1580 Sir Aberteifi |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr |
Cefndir
golyguGanwyd Lewis ym 1580 neu 1581 yn ail fab James Lewis (bu farw 1599) o Abernantbychan, ond ei fab gyntaf gyda'i ail wraig Anne, merch John Wogan, Wiston, Sir Benfro Cafodd ei addysgu yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen gan ddechrau yn y coleg ym 1598. Ymunodd a'r Deml Ganol ym 1599.
Ym 1601 priododd Bridget (bu farw.1643), merch Syr Richard Pryse Gogerddan, bu iddynt tri mab a thair merch.
Swyddi Cyhoeddus
golyguGwasanaethodd fel Ynad Heddwch ar fainc Ceredigion o 1599 i 1626; fel Custos Rotulorum y sir o 1623 i 1626. Bu'n Uchel Siryf Sir Aberteifi ym 1608 a 1633. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceredigion ym 1604.[2]
Does dim cofnod o ba ochr roedd yn ffafrio yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, gan ei fod dros 60 mlwydd oed ar ei gychwyn, hwyrach ei fod yn rhy hen i chware rhan weithredol.
Dyrchafwyd ef yn farchog 4 Gorffennaf 1604.
Marwolaeth
golyguBu farw ym 1655 neu 1656, er nad oes cofnod o fan ei gladdu, claddwyd ei wraig a'i fab ieuengaf mewn claddgell deuluol o dan y côr yn eglwys Penbryn ac mae'n bur debyg y rhoddwyd ef i orffwys gyda hwy.
Cyfeiriadau
golyguSenedd Lloegr | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Richard Pryse |
Aelod Seneddol Ceredigion 1604 |
Olynydd: Richard Pryse |