Roedd John Logie Baird (13 Awst 188814 Mehefin 1946) yn ddyfeisiwr, peiriannydd trydanol ac arloeswr o'r Alban. Ef wnaeth arddangos y system deledu weithredol gyntaf y byd ar 26 Ionawr 1926. Dyfeisiodd hefyd y system deledu lliw gyntaf a arddangoswyd yn gyhoeddus, a'r tiwb lluniau teledu lliw electronig cyntaf un.[1]

John Logie Baird
Ganwyd13 Awst 1888 Edit this on Wikidata
Helensburgh Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mehefin 1946 Edit this on Wikidata
Bexhill-on-Sea Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Alban Yr Alban
Alma mater
Galwedigaethdyfeisiwr, ffisegydd, entrepreneur, awdur ffeithiol Edit this on Wikidata
PriodMargaret Albu Edit this on Wikidata
Gwobr/auHonorary Fellow of the Royal Society of Edinburgh Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Baird yn Helensburgh, Swydd Dunbarton, yr ieuengaf o bedwar o blant y Parchedig John Baird, gweinidog Eglwys yr Alban, a Jessie Morrison Inglis, nith amddifad teulu cyfoethog o adeiladwyr llongau o Glasgow.

Derbyniodd ei addysg yn Academi Larchfield (sydd bellach yn rhan o Ysgol Lomond ) yn Helensburgh; Coleg Technegol Glasgow a Gorllewin yr Alban a Phrifysgol Glasgow.[2] Tra yn y coleg ymgymerodd Baird â chyfres o swyddi prentis peirianneg fel rhan o'i gwrs. Amharodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei gwrs gradd ac ni ddychwelodd i raddio.

Gyrfa golygu

Ar ddechrau 1915 gwirfoddolodd am wasanaeth yn y Fyddin Brydeinig ond fe'i dosbarthwyd yn anaddas ar gyfer dyletswydd weithredol. Gan fethu â mynd i'r Ffrynt, cymerodd swydd gyda Chwmni Pŵer Trydanol Clyde Valley, a oedd yn ymwneud â gwaith arfau rhyfel.

Ar ddiwedd y rhyfel dechreuodd busnes gwerthu sanau thermol o'i ddyfeisied ei hun [3]. Ym 1919 aeth i Drinidad lle agorodd ffatri jam i wneud defnydd o 'r ffrwythau niferus oedd yn tyfu ar yr ynys.[4] Yn anffodus wnaeth pryfed yr ynys difetha ei gynnyrch trwy farw yn y crewynnau coginio. Dychwelodd i wledydd Prydain a dechreuodd arbrofi gyda theledu.

Cafodd ei lwyddiant cyntaf ym 1924 [5] pan ddarlledodd llun o groes i dderbynnydd 10 troedfedd i ffwrdd. Rhoddodd Baird yr arddangosiad cyhoeddus cyntaf o ddelweddau silwét symudol ar y teledu yn siop adrannol Selfridges yn Llundain mewn cyfres tair wythnos o arddangosiadau a ddechreuodd ar 25 Mawrth 1925. Yn ei labordy ar 2 Hydref 1925, trosglwyddodd Baird y llun teledu cyntaf yn llwyddiannus gyda delwedd graddfa lwyd: pen dymi tafleisydd o'r enw "Stooky Bill" mewn delwedd 30 llinell wedi'i sganio'n fertigol, ar bum llun yr eiliad. Aeth Baird i lawr y grisiau a nôl gweithiwr swyddfa, William Edward Taynton, 20 oed, i weld sut olwg fyddai ar wyneb dynol, a daeth Taynton y person cyntaf i gael ei deledu mewn ystod arlliw lawn.

Ar 26 Ionawr 1926, ailadroddodd Baird y trosglwyddiad ar gyfer aelodau’r Sefydliad Brenhinol a gohebydd o The Times yn ei labordy yn Llundain. Dangosodd drosglwyddiad lliw cyntaf y byd ar 3 Gorffennaf 1928, gan ddefnyddio disgiau sganio wrth y pennau trosglwyddo a derbyn gyda thair troell o agorfeydd. Roedd gan bob troell yn cynnwys hidlydd o liw cynradd gwahanol; a thair ffynhonnell golau ar y pen derbyn, gyda chymudadur i newid cryfder y golau.[6]

Ym 1927, trosglwyddodd Baird signal teledu pellter hir dros 438 milltir (705 km) dros linell ffôn rhwng Llundain a Glasgow. Ym 1928 anfonodd luniau teledu o Lundain i Efrog Newydd ar radio tonnau byr. Bu hefyd yn arddangos teledu mewn lliw, a datblygodd system recordio fideo a alwodd yn 'phonovision'.[7]

Dechreuodd y BBC ddefnyddio system Baird ar gyfer y gwasanaeth teledu cyhoeddus cyntaf ym 1932, cyn newid ym 1937 i fersiwn Marconi-EMI.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, parhaodd Baird i ariannu ei ymchwil ei hun. Roedd ei gyflawniadau yn cynnwys teledu diffiniad uchel a theledu 3D, a system ar gyfer anfon negeseuon yn gyflym iawn fel delweddau teledu.

Teulu golygu

Ym 1931 priododd Baird â Margaret Albu, pianydd o Dde Affrica yn wreiddiol, bu iddynt dau o blant.[8]

Marwolaeth golygu

Bu Logie Baird farw yn ei gartref yn Bexhill-on-Sea, Dwyrain Sussex, ar ôl dioddef strôc. Cafodd ei gladdu wrth ochr ei rieni ym Mynwent Helensburgh, Argyll.[9]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Baird, John Logie (1888–1946), television engineer". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/30540. Cyrchwyd 2020-10-18.
  2. Thorne, J. O.; Collocott, T. C., gol. (1984). Chambers biographical dictionary. Caeredin: Chambers. ISBN 0-550-16010-8. OCLC 13665413.
  3. "Helensburgh Heritage Trust - The famous Baird Undersocks". www.helensburgh-heritage.co.uk. Cyrchwyd 2020-10-18.
  4. "John Logie Baird - Inventions, Facts & TV - Biography". www.biography.com. Cyrchwyd 2020-10-18.
  5. "John Logie Baird | British inventor". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-10-18.
  6. "University of Glasgow :: Story :: Biography of John Logie Baird". universitystory.gla.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-20. Cyrchwyd 2020-10-18.
  7. "John Logie Baird". bbc.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-18.
  8. "John Logie Baird biography - Science Hall of Fame - National Library of Scotland". digital.nls.uk. Cyrchwyd 2020-10-18.
  9. "John Logie Baird in Bexhill-on-Sea". www.discoverbexhill.com. Cyrchwyd 2020-10-18.