John Morgan (Aberconwy)

bardd a gweinidog

Clerigwr Anglicanaidd ac awdur Cymreig oedd John Morgan (166214 Medi 1701), y cyfeirir ato gan amlaf fel "John Morgan, Ficer Aberconwy".[1]

John Morgan
Ganwyd1662 Edit this on Wikidata
Bu farw14 Medi 1701 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, bardd Edit this on Wikidata

Ychydig iawn a wyddys am fywyd yr awdur. Daeth yn Ficer Aberconwy (sef plwyf a thref Conwy, Sir Conwy) yn rhan olaf yr 17g.

Fel llenor, cyfieithodd waith crefyddol Saesneg a'i gyhoeddi fel Eglurhad byrr ar Gatechism yr Eglwys (1699). Ysgrifennodd waith gwreiddiol hefyd, sef Bloedd-nad Ofnadwy yr Udcorn Diweddaf, a gyhoeddwyd yn 1704 ar ôl ei farwolaeth. Mae'r gwaith hwnnw yn cynnwys pregeth, adran o gerddi Cymraeg, ac adran i ddysgu Cymry anllythrennog sut i ddarllen Cymraeg, sef "Hyfforddiad i'r anllythrennog i ddysgu darllen Cymraeg."[2]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Eglurhad byrr ar Gatechism yr Eglwys (1699)
  • Bloedd-nad Ofnadwy yr Udcorn Diweddaf (1704)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).
  2. Charles Ashton, Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1651 hyd 1850 (Lerpwl, 1893).