John Rogers Thomas
Roedd John Rogers Thomas (26 Mawrth/30 Mawrth 1829 – 5 Ebrill 1896) yn gyfansoddwr Americanaidd, pianydd, a chanwr o dras Gymreig.
John Rogers Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 26 Mawrth 1830, 26 Mawrth 1829 Casnewydd |
Bu farw | 5 Ebrill 1896 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, canwr, athro cerdd |
Arddull | opera |
Math o lais | bariton |
llofnod | |
Ganwyd Thomas yng Nghasnewydd, De Cymru. Yn faritôn a chyfansoddwr, daeth i America am y tro cyntaf gyda Chwmni Opera Sequin English a magodd ddiddordeb yng ngherddoriaeth America a oedd yn datblygu. Roedd yn canu a theithio gyda Bryant's Minstrels ac ymgartrefodd yn Ninas Efrog Newydd.
Ysgrifennodd fwy na chant o ganeuon Americanaidd poblogaidd yn ystod y 19g, yn cynnwys The Cottage by the Sea (1856), Old Friends and Old Times (1856), Bonny Eloise-The Belle of Mohawk Vale (1858), ' Tis But a Little Faded Flower (1860), When the War is Over, Mary (1864), Beautiful Isle of the Sea (1865), Croquet (1867), Eilleen Allanna (1873), a Rose of Killarney (1876). O bryd i'w gilydd cyhoeddodd Thomas ddeunydd o dan y ffugenwau Charles Osborne, Arthur Percy a Harry Diamond. Yn ogystal ag ysgrifennu caneuon, cyfansoddodd Thomas dri gwaith pellach; The Picnic (1869), operetta plant gyda'r geiriau gan George Cooper; The Lady in the Mask (1870), operetta gyda'r geiriau gan George Cooper; a Diamond Cut Diamond (1876), opera parlor mewn un act.[1].
Yn ogystal â'i ganeuon poblogaidd, cyfansoddodd Thomas gerddoriaeth cysegredig, a chafodd ei adnabod hefyd fel athro yn Brooklyn ac yn Ninas Efrog Newydd, lle bu farw.
Cywiriad ar ddyddiad a man geni Thomas; a anwyd yn 1829 yng Nghasnewydd, "De Cymru" ac nid Rhode Island fel y dywedwyd yn wreiddiol uchod.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ pdmusic.org
- ↑ "Biographical Dictionary of American Composers," Claghorn, Charles Eugene, Parker Publishing Co., West Nyack, N.Y., 1973, ISBN 0-13-076331-4
Dolenni allanol
golygu- Cerddoriaeth ddalen "Cottage by the Sea", Augusta, GA: Blackmar & Bro, from the Confederate Imprints Sheet Music Collection
- Rhestr o'i gerddoriaeth
- Sheet Music