Jorf
Tref arfordirol yn Nhiwnisia yw Jorf (Arabeg: الجُرْف ). Fe'i lleolir yn ne Tiwnisia tua 450 km i'r de o'r brifddinas Tiwnis. Mae'n borthladd gyda gwasanaeth fferi sy'n cysylltu ynys Djerba a'r tir mawr. Mae'n gorwedd yn nhalaith Medenine.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Médenine |
Gwlad | Tiwnisia |
Cyfesurynnau | 33.69678°N 10.731883°E |
Tua 20 km i'r de o Jorf ceir safle dinas hynafol Gigthis, a sefydlwyd gan y Ffeniciaid ac a ddaeth yn borthladd prysur yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig.