José María de Pereda
Llenor Sbaenaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd José María de Pereda (6 Chwefror 1833 – 1 Mawrth 1906)[1] sydd yn nodedig am ei straeon byrion a nofelau realaidd a leolir ym mynyddoedd Cantabria sydd yn nodweddiadol o fudiad costumbrismo.
José María de Pereda | |
---|---|
Ganwyd | 6 Chwefror 1833 Santander |
Bu farw | 1 Mawrth 1906 Santander |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor, gwleidydd, nofelydd |
Adnabyddus am | El sabor de la tierruca, Tipos y paisajes, Al primer vuelo |
Mudiad | realaeth |
Gwobr/au | Uwch Groes ar Orchymyn Sifil Alfonso XII |
Ganed yn Nyffryn Besaya, Talaith Santander, yn rhanbarth hanesyddol Cantabria, i deulu o Gatholigion selog. Darparwyd incwm iddo gan ei frawd hŷn, a throdd José ei holl sylw at lenydda felly. Ei ymdrech gyntaf oedd Escenas montañesas (1864), casgliad o frasluniau realaidd o bysgotwyr Santander a gwerinwyr mynyddoedd Cantabria.
Ymhlith ei nofelau dychanol a gwleidyddol mae El buey suelto (1878), Don Gonzalo González de la Gonzalera (1879), a De tal palo tal astilla (1880). Campwaith Pereda ydy Sotileza (1884), un o nofelau Sbaeneg gwychaf y 19g. Dyma stori epig am fywydau pysgotwyr Santander, esiampl ddiffuant o nofel foes ac arfer sydd hefyd yn cynnwys portreadau enigmataidd o'i chymeriadau. Bu farw yn Santander yn 73 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) José María de Pereda. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Rhagfyr 2019.