Jiwdo

(Ailgyfeiriad o Judo)

Crefft ymladd o Japan ydy Jiwdo. Mae'r term yn golygu "ffordd addfwyn" yn Japaneg. Crëwyd y grefft ym 1882 gan Dr Kano Jigoro. Ei nodwedd amlycaf yw'r elfen gystadleuol, lle mae cystadleuwyr naill ai'n cael eu taflu, eu rhwystro rhag symud neu eu gorfodi i ildio gan y gwrthwynebydd. Mae taro a hyrddio gan ddefnyddio dwylo a thraed yn ogystal ag arfau hunan-amddiffyn hefyd yn rhan o jiwdo, ond dim ond mewn gornestau penodol (kata). Ni chânt eu caniatau mewn cystadlaethau jiwdo neu ymarferion rhydd (randori).

Dau berson yn ymarfer jiwdo

Teuluoedd o dechnegau golygu

 
Tafliad gan Grŵp Jiwdo Caerdydd. Ffotograff gan Geoff Charles (1951).
  • Nage waza - taflu'r gwrthwynebydd
  • Osaekomi waza - pinio'r gwrthwynebydd i lawr
  • Kansetsu waza - cloi penelin y gwrthwynebydd yn boenus i gael ymostyngiad
  • Shime waza - tagu'r gwrthwynebydd i gael ymostyngiad
  Eginyn erthygl sydd uchod am grefftau ymladd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato