Awdures Seisnig yw Judy Marks (ganwyd 1 Tachwedd 1954, Swydd Hertford). Rhwng mis Hydref 1974 a 2006, bu'n byw a phriododd y smyglwr marijuana ddrwg-enwog Howard Marks. Mae hi'n fam i dri o'i blant Amber Marks, Francesca Marks (ganwyd Tachwedd 1980) a Patrick Marks (ganwyd Tachwedd 1986).

Judy Marks
Ganwyd1 Tachwedd 1954 Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Estraddodwyd Judy Marks ynghyd â'i gŵr Howard, o'u cartref yn Mallorca, Sbaen i Miami, Florida. Treuliodd dwy flynedd wedi ei gwahanu o'i phlant tra mewn carchar ar gyfandir arall.

Mae ei llyfr, Mr Nice and Mrs Marks (Ebury Press, 2006), yn adrodd hanes eu bywyd a'i gilydd. Mae Judy Marks yn byw gyda dau o'i phlant yn Palma de Mallorca.

Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.