Junichirō Koizumi
Gwleidydd Japaneaidd yw Junichirō Koizumi (ganed 8 Ionawr 1942) a fu'n Brif Weinidog Japan o 2001 i 2006.
Junichirō Koizumi | |
---|---|
Y Prif Weinidog Junichirō Koizumi yn 2001. | |
Ganwyd | 8 Ionawr 1942 Yokosuka |
Dinasyddiaeth | Japan |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, economegydd |
Swydd | Minister for Foreign Affairs, Minister of Health and Welfare of Japan, Prif Weinidog Japan, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr Japan, President of the Liberal Democratic Party, Minister of Agriculture, Forestry and Fisheries, Minister of Posts and Telecommunications, Prif Weinidog Japan, Prif Weinidog Japan |
Plaid Wleidyddol | Y Blaid Ryddfrydol Ddemocrataidd |
Tad | Jun'ya Koizumi |
Mam | Yoshie Koizumi |
Plant | Kotaro Koizumi, Shinjirō Koizumi |
Gwobr/au | Urdd Sikatuna, Order of the Chrysanthemum |
llofnod | |
Ganed yn Yokosuka, Talaith Kanagawa, Ymerodraeth Japan. Gwasanaethodd ei dad, Junya Samejima (a gymerai enw teulu ei wraig, Yoshi Koizumi), yn aelod o Dŷ'r Cynrychiolwyr (is siambr y Diet) ac yn gyfarwyddwr cyffredinol Asiantaeth Amddiffyn Japan.[1] Astudiodd Junichirō economeg ym Mhrifysgol Keio, Tokyo, ac wedi iddo dderbyn ei radd ym 1967 aeth i Ysgol Economeg Llundain. Yn sgil marwolaeth ei dad ym 1969, ymgyrchodd Junichirō i'w olynu yn ei sedd seneddol, ond ni enillodd yr etholiad. Ymgeisiodd eto am y sedd ym 1972, gan ennill.[2] Priododd Junichirō Koizumi â Kayoko Miyamoto ym 1978, a chawsant dri mab (Kotaro Koizumi, Shinjiro Koizumi, ac Yoshinaga Miyamoto) cyn iddynt ysgaru ym 1982.[1]
Gwasanaethodd Koizumi yn weinidog iechyd a lles o 1988 i 1989 ac o 1996 i 1998, ac yn weinidog y post a thelegyfathrebu o 1992 i 1993. Ymgyrchodd, heb ennill, am lywyddiaeth y Blaid Ddemocrataidd Ryddfrydol (Jimintō) ym 1995 ac ym 1998. Yn sgil ymddiswyddo Yoshirō Mori yn Ebrill 2001, ymgyrchodd Koizumi unwaith eto i arwain y blaid, gan ennill yr etholiad – y tro cyntaf i aelodau lleol Jimintō yn ogystal ag aelodau seneddol y blaid dewis eu harweinydd – a chael ei benodi'n brif weinidog ar 26 Ebrill 2001.
Mewn materion economaidd a diplomyddol, dilynodd y Prif Weinidog Koizumi bolisïau ceidwadol. Rhodd gefnogaeth gryf i Unol Daleithiau America yn y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth, gan gynnwys anfon lluoedd Japaneaidd i Ryfel Irac, ac ymwelodd yn flynyddol i Gysegrfa Yasukuni er gwaethaf protestiadau gan Tsieina, Gogledd Corea, a De Corea. Bu'n brif weinidog poblogaidd, ac enillodd Jimintō yr etholiad cyffredinol yn Nhachwedd 2003. Wynebodd Koizumi wrthwynebiad i'w fwriad i breifateiddio system bost Japan, a gwrthodwyd y cynllun hwnnw gan Dŷ'r Cynghorwyr (uwch siambr y Diet) yn 2005. Diarddelodd Koizumi ei wrthwynebwyr o'i blaid a galwodd etholiad cyffredinol i dorri'r ddadl. Er gwaethaf buddugoliaeth ysgubol Jimintō yn yr etholiad ym Medi 2005, bu'n rhaid i Koizumi ymddiswyddo oherwydd rheolau'r blaid yn cyfyngu ar gyfnodau yn y swydd, ac ar 26 Medi 2006 fe'i olynwyd yn llywydd y Blaid Ddemocrataidd Ryddfrydol ac yn Brif Weinidog Japan gan Shinzō Abe.
Yn 2008 datganodd Koizumi y byddai'n ymddeol o fyd gwleidyddiaeth wedi i'w dymor yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr derfynu. Yn 2009, etholwyd ei fab Shinjiro Koizumi i'w olynu yn y sedd. Ers trychineb Atomfa Fukushima yn 2011 mae Junichirō Koizumi wedi siarad yn gyhoeddus yn erbyn ynni niwclear.[2] Mae Koizumi yn hoff iawn o'r canwr Elvis Presley, ac yn 2001 rhyddhawyd cryno-ddisg yn Japan gyda 25 o ganeuon Elvis a ddewiswyd gan Koizumi er mwyn codi arian am elusennau.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) "Junichiro Koizumi Fast Facts", CNN (22 Rhagfyr 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 15 Mehefin 2021.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Koizumi Junichiro. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Mehefin 2021.
- ↑ (Saesneg) "Koizumi's all-time Elvis favorites", CNN (16 Awst 2001). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 15 Mehefin 2021.