Justinus II
Ymerawdwr Bysantaidd oedd Justinus II, Lladin: Flavius Iustinus (Iunior) Augustus (520 - 578). Roedd yn fab i Vigilantia, chwaer yr ymerawdwr Justinianus II, ac ef a eifeddodd yr orsedd ar farwolaeth Justinianus ar 14 Tachwedd 565.
Justinus II | |
---|---|
Ganwyd | c. 520 Caergystennin |
Bu farw | 4 Hydref 578, 5 Hydref 578 Caergystennin |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Ymerawdwr Bysantaidd, seneddwr Rhufeinig |
Mam | Vigilantia |
Priod | Sophia |
Plant | Arabia, Tiberius II |
Llinach | llinach Iwstinian |
Bu Justinus yn llawer llai llwyddiannus na'i ewythr fel ymerawdwr; cipiwyd yr Eidal gan y Lombardiaid yn 568, bu'n ymladd yn aflwyddiannus yn erbyn yr Afariaid a chollodd Syria i'r Persiaid. Erbyn diwedd ei deyrnasiad roedd yn dioddef o afiechyd meddyliol.
Dyrchafwyd Tiberius II Cystennin, oedd yn gyfaill i Justinus, yn gyd-ymerawdwr yn 574 ar gyngor yr ymerodres Sophia, a bu'n rheoli'r ymerodraeth ar y cyd a hi hyd ar farwolaeth Justinus, pan ddaeth yn ymerawdwr ar ei ben ei hun.