Cabwci

(Ailgyfeiriad o Kabuki)

Ffurf draddodiadol ar y theatr yn Japan yw Cabwci[1] sydd yn cyfuno cân a dawns mewn modd arddulliedig a chyda llwyfannu a gwisg ysblennydd. Er bod geiriau'r dramâu yn hynod o delynegol, gwerthfawrogir Cabwci fel rheol am ei berfformiadau gweledol a lleisiol yn hytrach na'i lenyddiaeth.[2]

Nakamura Kanzaburō XVIII, un o deulu o actorion Cabwci sydd yn mynd yn ôl i'r 17g.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, "Kabuki".
  2. (Saesneg) Kabuki. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mehefin 2018.