Karen Daniels
Mae Karen Daniels yn gymeriad yn y gyfres Grand Theft Auto sy'n ymddangos fel cymeriad cefnogol a chyn cariad y prif gymeriad yn Grand Theft Auto IV, cymeriad bach yn Grand Theft Auto V a phrif gymeriad yn Grand Theft Auto Online.[1]
Karen Daniels | |
---|---|
Michelle yn cyfaddef mae hi yw Karen Davies o'r IIA ar ddiwedd y dasg Snow Storm yn GTA IV | |
Ganwyd | 1981 |
Dinasyddiaeth | UDA |
Galwedigaeth | asiant y llywodraeth |
Cyflogwr |
Cefndir
golyguMae Daniels yn asiant cudd i'r llywodraeth sy'n gweithio i United Liberty Paper (ULP). Cyn datgelu'r gwir am ei hunaniaeth, daw'n gariad Niko, prif gymeriad y gêm Grand Theft Auto IV, gan ddefnyddio' ffugenw Michelle.[2] Erbyn 2013, daeth yn brif holwr yr IAA. Mae'r IAA (Asiantaeth Materion Rhyngwladol) yn asiantaeth gudd-wybodaeth sy'n ymddangos yn Grand Theft Auto IV (sy'n cuddio'i fodolaeth tu ôl i'r ULP) ac yn Grand Theft Auto V. Mae'r cymeriad yn cael ei lleisio gan yr actor Rebecca Henderson [3]
Bywgraffiad
golyguYchydig iawn sy'n hysbys am gefndir Karen oherwydd ei statws fel asiant cudd. Mae'n honni iddi gael ei magu yng nghanolbarth gorllewinol yr Unol Daleithiau. Mae'n debyg iddi gael ei gorfodi gan yr IAA/ULP i ddod yn asiant iddynt, gan awgrymu efallai bu ganddi gysylltiadau troseddol yn y gorffennol. Mae'r syniad hwn yn cael ei hatgyfnerthu gan gyswllt Niko yn yr ULP; pan ofynnodd Niko beth oedd gwobr Karen am ddod â Niko i mewn, mae'n ymateb "Rhoesom ei bywyd yn ôl iddi". Er bod ei swydd yn ei gwneud yn ofynnol iddi dwyllo'r bobl o'i chwmpas a chadw lefel benodol o ddatgysylltiad emosiynol, roedd yn ymddangos ei bod yn wirioneddol hoffi Niko. Mae'n ymddangos yn edifar am ei fradychu, gan awgrymu ymhellach ei bod hi wedi cael ei gorfodi i'r swydd.
Karen yn Grand Theft Auto IV
golyguBu cyfarfod cyntaf Niko â Karen (a oedd yn defnyddio ei ffugenw Michelle ar y pryd) yn ystod y dasg "Three's a Crowd". Cenhadaeth Niko yn y dasg yw casglu Michelle a Mallorie o'r orsaf danddaearol a'u cludo yn ôl i fflat Karen yn Rotterdam Hill. Yn ystod y daith car, mae Mallorie yn awgrymu bod Michelle a Niko yn mynd allan gyda'i gilydd. Mae Karen yn cytuno gan ddweud wrth Niko ei fod y math o ddyn mae hi eisiau dod i'w adnabod. Ar ôl y cyfarfod hwn, bydd y dasg "First date" yn datgloi. Ar ôl y dêt cyntaf gall Niko fynd â hi allan yn rheolaidd nes bod y dasg "The Snow Storm" wedi'i chwblhau [4]. Ar ddiwedd "The Snow Storm" bydd Michelle yn cyfaddef i Niko ei bod wedi bod yn ei gwylio ac yn gweithio i'r llywodraeth. Wedi datgelu pwy yw hi, go iawn, mae hi'n atafaelu cocên Elizabeta, ac mae hi a Niko yn torri i fyny.
Karen yn Grand Theft Auto Online
golyguPum mlynedd ar ôl digwyddiadau GTA IV, mae Karen bellach yn asiant mewn safle uchel yn yr IAA. Mae'n ymddangos yn ystod dasg sefydlu The Humane Labs Raid, lle mae chwaraewyr yn cael y dasg o gwrdd â Karen er mwyn derbyn codau mynediad i gyfleuster arfau biolegol yr IAA. Ar ôl derbyn cadarnhad gan yr IAA bod y criw yn ddilys, mae'n paratoi i roi'r cod i arweinydd y criw. Pan fydd yn rhoi'r bag briffio i lawr, sy'n cynnwys y cod mynediad, mae tîm FIB yn cudd-ymosod ar y cyfarfod ac yn lladd ei gwarchodwr. Mae Karen yn rhedeg i ffwrdd ar unwaith tra bod y criw yn cwmpasu ei dihangfa drwy ladd asiantau'r FIB.
Fe'i gwelir yn ddiweddarach ar ddiweddglo'r ymosodiad ar y cyfleuster, lle mae'n trafod sut y gall yr IAA ofyn i unrhyw un i wneud eu gwaith budr trwy eu talu. Yna mae hi'n rhoi grenâd i un o aelodau'r criw i'w defnyddio i ddinistrio'r dystiolaeth cyn iddi adael yr ardal.
Karen yn Grand Theft Auto V
golyguMae hi'n cael ei gweld yn y dasg Three's Company, lle mae'n arteithio carcharor o Aserbaijan trwy ymosod ar ei ddwylo gyda thortsh ac yna bygwth ei osod i fynnu twll ei din.[5] Fodd bynnag, cyn y gall gyflawni ei bygythiad, mae Michael De Santa yn torri ar draws y sesiwn arteithio, trwy dorri drwy ffenestr y swyddfa fel rhan o ymgyrch achub gan y FIB. Mae Michael a Franklin Clinton yn dechrau saethu asiantau'r IAA, ond mae Karen yn llwyddo i ddianc yn ddianaf ac yn galw am gefnogaeth. Serch hynny, mae Michael De Santa yn dianc gyda'r carcharor ac ni chaiff Karen ei gweld eto yng ngweddill y brif stori.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Karen Daniels ar GTA Fandom adalwyd 29 Mawrth 2019
- ↑ Grand Theft Wiki - Karen adalwyd 30 mawrth 2019
- ↑ Rebecca Henderson ar IMDb adalwyd 29 Mawrth 2019
- ↑ GTA 5: Startling facts behind Karen Daniels, Steven Haines, Dave Norton and Andreas Sanchez unearthed adalwyd 30 mawrth 2019
- ↑ The Gamer - 15 Grand Theft Auto Characters You Forgot Were In Multiple Games adalwyd 30 mawrth 2019
- ↑ GTA Expert IT Protagonisti e Personaggi - Karen Daniels adalwyd 30 Mawrth 2019