Kate y Wrach o Fflandrys
gwrach neu 'wraig hysbys' chwedlonol oedd yn byw yn ardal Bro Morgannwg
Gwrach neu 'wraig hysbys' chwedlonol oedd Kate y Wrach o Fflandrys a oedd yn byw yn ardal Bro Morgannwg.
Kate y Wrach o Fflandrys | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwrach |
Roedd Kate y Wrach o Fflandrys yn wrach yn ardal Bro Morgannwg. Roedd trigolion y plwyf yn ei hofni’n fawr, gan ei bod yn rheibies nerthol.
Ar ddiwrnod ei hangladd bu storm enfawr o fellt a tharannau, a gwaethygodd y tywydd wrth i’w harch gyrraedd yr eglwys. Aeth yr awyr yn dywyll iawn, a cwympodd y glaw yn drwm. Llifodd dŵr i grombil yr eglwys, gan achosi llifogydd, a malwyd beddfeini’r fynwent.