Katherine Philipps
Bardd, dramodydd ac awdures oedd Katherine Philipps (neu Philips), neu Orinda (née Katherine Fowler, 1 Ionawr, 1631 - 22 Mehefin, 1664). Roedd hi'n boblogaidd iawn yn ei dydd ac yn cael ei hadnabod fel "Y Ddigymar Orinda" ("The Matchless Orinda"). Priododd i mewn i deulu Philipps, tirfeddianwyr cyfoethog o Dde Cymru.
Katherine Philipps | |
---|---|
Orinda (Katherine Philipps) | |
Ffugenw | Orinda |
Ganwyd | 1 Ionawr 1632 Llundain |
Bu farw | 22 Mehefin 1664 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, cyfieithydd, llenor |
Bywgraffiad
golyguCafodd ei geni yn Llundain, ond treuliai cyfnodau hir yn ardal Aberteifi gyda'i gŵr James Philipps (priodasant yn 1647 pan oedd hi'n un ar bymtheg oed). Ffurfiodd gylch llenyddol i ferched bonheddig yn yr ardal.
Mae nifer o'i cherddi'n adlewyrchu ei chariad at Gymru a'r iaith Gymraeg. Cyfansoddodd gerdd ar thema wladgarol i Henry Vaughan (1621 - 1695), y bardd a meddyg o Ddyffryn Wysg.
Cyhoeddwyd casgliad o'i holl gerddi dan y teitl Poems by the incomparable Mrs K(atherine) P(hilipps) yn 1664.
Mae'r nofel Orinda gan R. T. Jenkins yn seiliedig ar y cyfnod a dreuliodd Katherine Philipps yn Aberteifi.
Gwaith Orinda
golygu- Poems by the incomparable Mrs K(atherine) P(hilipps) (1664).
Yr unig olygiad diweddar hwylus yw,
- Saintsbury (gol.), Minor Poets of the Caroline Period, cyf. 3 (1905)
Astudiaethau a llyfrau eraill
golygu- Edmund Gosse, "The Matchless Orinda", yn Seventeenth Century Studies (1883).
- R. T. Jenkins, Orinda (1943). Nofel fer seiliedig ar ei hanes.