Kenneth Glyn Jones

seryddwr Cymreig

Seryddwr amatur Cymreig oedd Kenneth Glyn Jones (13 Tachwedd 191526 Gorffennaf 1995).[1] Enwyd asteroid ar ei ôl.

Kenneth Glyn Jones
Ganwyd13 Tachwedd 1915 Edit this on Wikidata
Tredegar Edit this on Wikidata
Bu farw26 Gorffennaf 1995 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethseryddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus am5861 Glynjones Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Un o Dredegar oedd Jones. Ymunodd â'r RAF yn 1938 a thrwy'r Ail Ryfel Byd fel fforiwr ('navigator') ar un o'r awyrennau bomio. Ymunodd â BOAC yn 1964 gan ddod yn hyfforddwr technegol a oedd yn arbenigo mewn fforio-seryddol ('astro-navigation') a pherfformiad awyrennau. Ymddeolodd o gwmni British Airways yn 1974.

Cafodd ei ethol yn gymrawd y Gymdeithas Seryddol Brenhinol ar 14 Chwefror 1969.

Darganfu lawer o sêr newydd yng Ngalaeth Andromeda ac o'r herwydd fe'i anrhydeddwyd gan y gymuned seryddol ryngwladol drwy alw asteroid (5861) ar ei ôl: 5861 Glynjones.

Bu farw o drawiad i'r galon yn ei gartref yn Berkshire yn 79 oed ar 26 Gorffennaf 1995.

Cyfeiriadau golygu

  1. Argyle, R. (1996). "Kenneth Glyn Jones (1915–1995)" (yn Saesneg). Quarterly Journal of the Royal Astronomical Society (Cymdeithas Seryddol Brenhinol) 37 (2): 265–266. Bibcode 1996QJRAS..37..265A. http://articles.adsabs.harvard.edu/full/1996QJRAS..37..265A. Adalwyd 16 Mehefin 2016.

Dolenni allanol golygu