Kevin Brennan
Gwleidydd Llafur o dde Cymru yw Kevin Denis Brennan (ganed 16 Hydref 1959[1]). Roedd yn Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd rhwng 2001 a 2024.[2]
Kevin Brennan | |
---|---|
Aelod Seneddol dros Gorllewin Caerdydd | |
Yn ei swydd 7 Mehefin 2001 – 30 Mai 2024 | |
Rhagflaenydd | Rhodri Morgan |
Olynydd | Alex Barros-Curtis |
Manylion personol | |
Ganwyd | Cwmbrân, Cymru | 16 Hydref 1959
Plaid wleidyddol | Llafur |
Alma mater | Coleg Penfro, Rhydychen |
Cafodd Brennan ei eni yng Nghwmbrân. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Gyfun St Alban's, Pontypŵl, ac wedyn yng Ngholeg Penfro, Rhydychen.[1]
Gyrfa wleidyddol
golyguYn 2005 roedd yn chwip yn llywodraeth Tony Blair.[3] Bu'n athro yn Ysgol Gyfun Radur am gyfnod.
Ers Medi 2023 roedd Brennan yn weinidog iau yn nghabinet cysgodol Keir Starmer.[4]
Ar 27 Mai 2024, ar ôl cyhoeddi etholiad cyffredinol y DU 2024, penderfynodd Brennan y byddai'n ymddeol fel aelod seneddol.[2]
Cerddoriaeth
golyguRoedd Brennan un o bedwar Aelod Seneddol yn y band "MP4".[5]
Yn 2016, ar ôl y llofruddiaeth yr AS Jo Cox, helpodd Brennan drefnu a rhyddhau sengl elusen, gyda cherddorion a chyd-aelodau seneddol, i godi arian i'r Jo Cox Foundation.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Biography". Kevin Brennan website. 7 Mehefin 2001. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2024.
- ↑ 2.0 2.1 "Kevin Brennan i gamu lawr fel Aelod Seneddol". BBC Cymru Fyw. 27 Mai 2024. Cyrchwyd 2024-07-16.
- ↑ "MPs handed new jobs in reshuffle". BBC News (yn Saesneg). 18 Mai 2005. Cyrchwyd 2024-07-16.
- ↑ "Starmer completes front bench reshuffle - full details". Policymogul.com (yn Saesneg). 6 Medi 2023. Cyrchwyd 2024-07-16.
- ↑ "MP4 strike a chord with voters". BBC News (yn Saesneg). 28 Hydref 2014. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2024.
- ↑ McCarthy, James (3 Rhagfyr 2016). "MP Kevin Brennan part of charity single in memory of murdered MP Jo Cox". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2024.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan etholaeth swyddogol
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Rhodri Morgan |
Aelod Seneddol dros Gorllewin Caerdydd 2001 – 2024 |
Olynydd: Alex Barros-Curtis |