Kings (ffilm)
Ffilm 2007 Gwyddeleg a ysgrifennwyd ac sy'n serennu Colm Meaney yw Kings. Seiliwyd y ffilm ar ddrama Jimmy Murphy The Kings of the Kilburn High Road. Mae'r ffilm yn ddwyieithog, gyda'r deialog yn Saesneg a Gwyddeleg. Cafodd y ffilm ei première yng Ngŵyl Ffilm Taormina (yr Eidal) ym Mehefin 2006, ac fe'i dewiswyd fel cynnig swyddogol Iwerddon ar gyfer y categori ffilm orau mewn iaith dramor yng Ngwobrau'r Academi 2008. Adrodda'r ffilm hynt a helynt criw o ffrindiau Gwyddelig sydd yn cyfarfod ar gyfer angladd ffrind, wedi iddynt oll fudo i Loegr 30 mlynedd ynghynt.
Cyfarwyddwr | Tom Collins |
---|---|
Cynhyrchydd | Tom Collins Jackie Larkin |
Ysgrifennwr | Jimmy Murphy Tom Collins |
Serennu | Colm Meaney Donal O'Kelly Brendan Conroy Donncha Crowley |
Cerddoriaeth | Pol Brennan |
Sinematograffeg | Peter Robertson |
Golygydd | Dermot Diskin |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | High Point Film and Television Ltd |
Amser rhedeg | 88 munud |
Gwlad | Iwerddon |
Iaith | Gwyddeleg,Saesneg |