Kirkcaldy a Cowdenbeath (etholaeth seneddol y DU)

etholaeth seneddol

Cyfesurynnau: 56°05′57″N 3°16′25″W / 56.09917°N 3.27361°W / 56.09917; -3.27361

Mae Kirkcaldy a Cowdenbeath yn etholaeth Sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Dumfries a Galloway, Gororau'r Alban a De Swydd Lanark.

Kirkcaldy a Cowdenbeath
Etholaeth Sirol
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Kirkcaldy a Cowdenbeath yn Yr Alban.
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd2005
Aelod SeneddolNeale Hanvey
Annibynnol
Nifer yr aelodau1
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Angela Crawley, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Ym Mehefin 2017 cipiwyd y sedd gan Lesley Laird (Llafur). Yn Etholiad Cyffredinol 2019, cipiwyd y sedd gan Neale Hanvey ar ran yr SNP, ond oherwydd iddo gael ei atal yn ystod ymgyrch yr etholiad hwnnw, bydd yn eistedd fel AS annibynnol. Bydd proses ddisgyblu'n cael ei chynnal i weld a fydd aelodaeth ei blaid yn cael ei hadfer.

Ffiniau a threfi golygu

Mae etholaeth Ochil a De Swydd Perth i'r gogledd, Dunfermline a Gorllewin Fife i'r gorllewin a Glenrothes i'r dwyrain.

Saif y trefi canlynol o fewn yr etholaeth: Kirkcaldy, Cowdenbeath, Burntisland, Dalgety Bay, Dysart, Kelty, a Lochgelly a'r pentrefi Aberdour, Auchtertool, Ballingry, Crosshill, Glencraig, Kinghorn, Lochore a Lumphinnans.[2]

Aelodau Seneddol golygu

Aelod Seneddol cynta'r etholaeth yn 2005 oedd y cyn Brif Weinidog Gordon Brown a ymddeolodd yn 2015.

Etholiad Aelod Plaid
2005 Gordon Brown Llafur
2015 Roger Mullin SNP
2015 Lesley Laird Llafur
2019 Neale Hanvey Annibynnol
2020 SNP
2021 Alba
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Sedgefield
Etholaeth y Prif Weinidog
20072010
Olynydd:
Witney
  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|
  2. "Gordon Brown Constituency Website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-20. Cyrchwyd 26 Mehefin 2007.