Kirstie Alley
Actores o'r Unol Daleithiau oedd Kirstie Louise Alley [1] (12 Ionawr 1951 – 5 Rhagfyr 2022). Roedd hi'n fwyaf adnabyddus am ei rol fel Rebecca Howe yn y comedi sefyllfa Cheers (1987-1993). Derbyniodd Wobr Emmy a Golden Globe ym 1991. O 1997 i 2000, bu'n serennu fel yr arweinydd yn y comedi sefyllfa Veronica's Closet, gan ennill enwebiadau Emmy a Golden Globe ychwanegol.
Kirstie Alley | |
---|---|
Ganwyd | 12 Ionawr 1951 Wichita |
Bu farw | 5 Rhagfyr 2022 o canser colorectaidd Tampa |
Man preswyl | Islesboro Island, Clearwater |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cynhyrchydd teledu |
Adnabyddus am | Cheers, Look Who's Talking, Look Who's Talking Too, Look Who's Talking Now, Veronica's Closet |
Tad | Robert Deal Alley |
Mam | Lillian Alley |
Priod | Unknown, Parker Stevenson |
Gwobr/au | Golden Globe Award for Best Actress – Television Series Musical or Comedy, Gwobr People's Choice, Gwobr Primetime Emmy i'r Prif Atores mewn Cyfres Gomedi, Gwobr Primetime Emmy ar gyfer Prif Actores Eithriadol mewn Cyfres Bitw neu Ffilm, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, People's Choice Award for Favorite Actress in a New TV Series, Golden Globes, Gwobr Emmy 'Primetime' |
Gwefan | http://www.kirstiealley.com |
Cafodd Alley ei geni yn Wichita, Kansas. Priododd Bob Alley ym 1970; ysgarodd ym 1977.[2] Priododd yr actor Parker Stevenson ar 22 Rhagfyr 1983.[3]
Ffilmiau
golygu- Star Trek Ii: The Wrath of Khan (1982)
- Summer School (1987)
- Shoot to Kill (1988)
- Look Who's Talking (1989)
- Madhouse (1990)
- Sibling Rivalry (1990)
- Village of The Damned (1995)
- It Takes Two (1995)
- Deconstructing Harry (1997)
- For Richer Or Poorer (1997)
- Drop Dead Gorgeous (1999)
Teledu
golygu- The Last Don (1997)
- Fat Actress
- Veronica's Closet (1997-2000)
Yn 2013, dychwelodd Alley i actio gyda'r rôl deitl ar y comedi sefyllfa Kirstie . Yn 2016, ymddangosodd ar y gyfres arswyd gomedi Fox Scream Queens. Enillodd ei hail Wobr Emmy ym 1994 am y ffilm deledu David's Mother. Ym 1997, derbyniodd Alley enwebiad Emmy arall am ei gwaith yn y gyfres ddrama drosedd The Last Don.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Kirstie Alley Biography: Television Star (1951–)" (yn Saesneg). Biography.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2020.
- ↑ "Kirstie Alley Fell in Love With Patrick Swayze, John Travolta While Married to Parker Stevenson". The Hollywood Reporter (yn Saesneg). 6 Tachwedd 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Hydref 2020. Cyrchwyd 25 Tachwedd 2020.
- ↑ Bjorklund, Dennis A. (2008). Television Cheers: A Comprehensive Reference. Praetorian Publishing. t. 30. ISBN 978-0967985237.