Mae'r Koppelpoort yn giât ganoloesol yn ninas Amersfoort yn yr Iseldiroedd, talaith Utrecht. Cafodd ei gwblhau tua 1425, mae'n cyfuno gatiau tir a dŵr, ac mae'n rhan o ail wal ddinas Amersfoort a adeiladwyd rhwng 1380 a 1450.[1]

Ffasâd gogledd-orllewinol
Ffasâd de-ddwyreiniol

Adeiladwyd y giât rhwng 1380 a 1425 fel rhan o ail wal y ddinas. Cafodd y wal gyfan ei gwblhau tua 1450. Ym 1427, yn ystod gwarchae'r ddinas, ymosodwyd ar y giât, ond yn y pen draw gwrthyrrwyd yr ymosodiad hwn.

Er mwyn agor y giât roedd angen i nifer o bobl cerdded ar hyd melin-draed. Roedd y giât yn cael ei hagor a'i chau bob dydd, a gelwir y bobl a cherddir ar hyd y melin-draed yn "raddraaiers" neu "trowyr-olwyn". Pob bore a phob nos dewisir o leiaf deuddeg o garcharorion i fod yn drowyr-olwyn. Roedd yn dasg hynod beryglus; os na fyddant yn dechrau cerdded ar yr un pryd gallai rhywun gwympo a llusgo'r gweddill, yn achosi canlyniadau marwol. Wrth gau'r giât roedd cerdded ar y melin-draed yn haws o lawer ac yn gyflymach, felly roedd nifer yn baglu llawer o bobl a thorri eu coesau.

Ym 1885 i 1886 adferwyd y Koppelpoort gan Pierre Cuypers, yn rhoi'r giât ei ymddangosiad presennol. Ymhlith pethau eraill, fe wnaeth Cuypers cael gwared â grisiau rhwng y ddwy giât a gosod llethr yn ei le.

Rhwng 1969 a 1993 roedd y giât yn gartref i theatr bypedau.

Cwblhawyd yr adferiad diweddaraf ym 1996. Cafodd hwn ei wnaed yn ofalus iawn, gyda pharch at yr hen ddeunyddiau adeiladu. Oherwydd hwn derbyniodd tref Amersfoort Wobr Europa Nostra.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Koppelpoort" (yn Dutch). Gilde Amersfoort. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 June 2015. Cyrchwyd 2 June 2015.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. "Gerestaureerde Koppelpoort beloond met Europa Nostra-prijs". Trouw (yn Dutch). 29 Ionawr 1999. Cyrchwyd 2 Mehefin 2015.CS1 maint: unrecognized language (link)