Seiclwr proffesiynol Ffrengig oedd Léon Georget (ganwyd 2 Hydref 1879, Preuilly-on-Claise, Indre-et-Loire; bu farw 5 Tachwedd 1949), bu'n broffesiynol rhwng 1902 a 1927. Roedd yn frawd hyn i'r seiclwr proffesiynol arall, Émile Georget.

Léon Georget
GanwydJoseph Léon Louis Georget Edit this on Wikidata
2 Hydref 1879 Edit this on Wikidata
Preuilly-sur-Claise Edit this on Wikidata
Bu farw5 Tachwedd 1949 Edit this on Wikidata
Neuilly-sur-Seine Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol, seiclwr trac Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auQ69505993 Edit this on Wikidata

Roedd y Bol d'Or (Cymraeg: Y bowlen aur) yn brawf caled ar gyfer seiclwyr trac, syniad cyfarwyddwr papur newydd y Paris-Pédale, Mr Decam, oedd y ras, a chynigwyd y wobr, powlen efydd goreurog, gan Chocolats Meunier. Bwriad y ras oedd i rasio am 24 awr, y tu ôl i hyfforddwr ar gefn motobeic. Rhwng 1894 a 1928, delwyd y ras yn Vélodrome Buffalo, neu'r Vélodrome d'Hiver. Bu Georget yn aml yn reidio dros 900 km yn ystod y ras.

Enillwyd y ras yn 1904 gan Lucien Petit-Breton.

Canlyniadau golygu

  • Bol d'or: Enillodd hwn 9 gwaith rhwng 1903 a 1919, gan gynnwys 8 cyn y rhyfel (2il 1904; 3ydd 1906 a 1924). (Record Léon: 914 km mewn 24 awr)
  • 24 awr o Frwsel: 1906 (gyda'i frawd, Emile)
  • Ras Chwe diwrnod Toulouse: 1906 (gyda Emile)
  • 2il Bordeaux-Paris: 1903 (3ydd 1910)
  • 3ydd Ras Chwe diwrnod Efrog Newydd: 1907 (cymerodd ran gyda Emile hefyd yn 1906, 1909 ac 1911)
  • 8fed Tour de France: 1906 (y flwyddyn gyntaf i ddau frawd gyflawni'r tour) Cystadlodd yn 1903, 1907 ac 1908 ond ni orffennodd Léon y ras yn y blynyddoedd rheiny.