LLE 129 Hindenburg

(Ailgyfeiriad o LZ 129 Hindenburg)

Llong awyr Almaenig oedd yr LZ 129 Hindenburg (Almaeneg: Deutsches Luftschiff Zeppelin #129; Rhif cofrestru: D-LZ 129). Roedd yn 247 metr; hyd tair Boeing 747 a 40 metr o ran diamedr.

LLE 129 Hindenburg
Enghraifft o'r canlynolrigid airship Edit this on Wikidata
Daeth i ben6 Mai 1937 Edit this on Wikidata
Map
GwneuthurwrLuftschiffbau Zeppelin Edit this on Wikidata
Hyd245 metr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yr Hindenburg — eiliadau ar ôl iddi fynd ar dân, 6 Mai 1937.
Ar fwrdd y llong awyr: y lolfa gyfforddus.

Hon oedd prif long awyr y cwmni, y fwyaf i hedfan erioed o ran cyfaint. Hedfanodd o Fawrth 1936 tan iddi fynd ar dân ar 6 Mai 1937 ar ddiwedd ei thaith traws-Iwerydd. Bu farw 36 o bobl yn y ddamwain wrth iddi lanio yn y Lakehurst Naval Air Station yn New Jersey.

Fe'i cynlluniwyd i ddefnyddio tanwydd nwy heliwm gan ei fod yn saffach na heidrogen ond roedd heliwm yn llawer iawn drytach i'w greu yn yr Almaen. Ychydig cyn gorffen ei hadeiladu fe newidiwyd y tanwydd ac aethpwyd am heidrogen.

Llong awyr fasnachol oedd hon a oedd yn cael ei rheoli gan gwmni 'Deutsche Zeppelin Reederei GmBH' (DZR) a sefydlwyd ym Mawrth 1935 gan Hermann Göring er mwyn cynyddu dylanwad y Natsiaid dros y zeppelin.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu