La Gomera

Un o'r saith ynys sy'n ffurfio'r Ynysoedd Dedwydd (Canarias) yn Sbaen yw La Gomera. Saif ychydig i'r gorllewin o Tenerife. Mae'n un o'r lleiaf o'r ynysoedd sydd a phoblogaeth arnynt, gydag arwynebedd o 378 km² a phoblogaeth o 21,220 yn 2004.

La Gomera
(Isla de la Gomera) La Palma & La Gomera Islands, Canary Islands (cropped).jpg
Mathvolcanic island Edit this on Wikidata
PrifddinasSan Sebastián de La Gomera Edit this on Wikidata
Poblogaeth21,153 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYr Ynysoedd Dedwydd Edit this on Wikidata
LleoliadCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
GwladSbaen Edit this on Wikidata
Arwynebedd370 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,484 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau28.115°N 17.225°W Edit this on Wikidata
Map

Fe'i rennir yn chwe cymuned:

Parc Cenedlaethol de Garajonay, La Gomera.

Mae'r ynys bron yn gron, tua 24 km ar ei thraws. Y copa uchaf yw Garajonay, 1,487 medr o uchder. Enwyd Parc Cenedlaethol Garajonay yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Galwodd Christopher Columbus yma yn 1492, y tir olaf iddo lanio arno cyn croesi'r Iwerydd ar ei ffordd i ddarganfod y Byd Newydd. Mae'r tŷ yn San Sebastián lle bu'n aros yn atyniad i dwristiaid.

Lleoliad La Gomera
Map of La Gomera.jpg