La Monte Young

cyfansoddwr a aned yn 1935

Cyfansoddwr, cerddor ac artist perfformio o Unol Daleithiau America yw La Monte Thornton Young (ganwyd 14 Hydref 1935).[1] Mae'n ffigwr canolog mewn cerddoriaeth avant-garde ac yn arloeswr ym maes minimaliaeth. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei archwiliad o donau parhaus, digyfnewid. Mae llawer o'i waith wedi cynnwys creu amgylcheddau sain yn hytrach na darnau arwahanol o gerddoriaeth. Mae ei waith wedi herio syniadau confensiynol am natur cerddoriaeth a wedi ysbrydoli cerddorion amlwg ar draws gwahanol genres, gan gynnwys avant-garde, roc, a cherddoriaeth amgylchynol.

La Monte Young
Ganwyd14 Hydref 1935 Edit this on Wikidata
Bern Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr, arlunydd, artist sy'n perfformio, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth arbrofol Edit this on Wikidata
MudiadFluxus Edit this on Wikidata
PriodMarian Zazeela Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Dewrder y Celfyddydau Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yn Bear Lake County, Idaho, a magwyd yn Los Angeles, Califfornia.[2] Trwy'r 1950au astudiodd gerddoriaeth yn John Marshall High School, Los Angeles Conservatory, Prifysgol Califfornia, Los Angeles a Phrifysgol Califfornia, Berkeley. Roedd yn bwriadu dilyn gyrfa fel cerddor jazz, ond trodd yn raddol tuag at gyfansoddi.

Yn 1959 mynychodd seminar cyfansoddi Karlheinz Stockhausen yng Nghwrs Haf Darmstadt, yr Almaen, lle cafodd ei gyflwyno i dechnegau a cherddoriaeth John Cage. Yn 1960 symudodd i Efrog Newydd yn 1960, lle roedd yn aelod o'r mudiad celf arbrofol Fluxus. Daeth yn adnabyddus wedyn am ei waith ym maes yn creu cerddoriaeth drôn (a elwid yn dream music) gyda’r Theatre of Eternal Music, ynghyd â chydweithwyr fel Tony Conrad, John Cale, a’i wraig, yr arlunydd Marian Zazeela.

Yn 1970 dechreuodd Young a Zazeela astudio cerddoriaeth India, gan ddod yn ddisgyblion i'r meistr lleisiol Pandith Pran Nath. Byddai Young a Zazeela ymlaen i berfformio cyngherddau o gerddoriaeth Indiaidd gyda'u grŵp y Just Alap Raga Ensemble.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Tannenbaum, Rob (2 Gorffennaf 2015). "La Monte Young Discusses His Life and Immeasuable Influence". Vulture (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Ebrill 2016.
  2. Mae'r manylion bywgraffyddol hyn yn seiliedig ar y nodyn "La Monte Young", gwefan IRCAM, Centre Pompidou; adalwyd 30 Mawrth 2024

Dolenni allanol

golygu