Ym mytholeg Mesopotamia, mae'r Lammasu yn greadur chwedlonol a ganddo ben dynol, corff tarw ac adennau eryr. Roeddent yn gwarchod y temlau - dau ohonynt gyda'i gilydd fel rheol - ac yn lladd pawb a ddeuai'n agos, ac eithrio pobl hollol dda neu rai hollol ddrwg, y rhai a oedd y tu hwnt i'w gallu.

Mae tarddiad yr enw yn ansicr. Ymddengys nad oes cysylltiad â'r Lamashtu, creadur dieflig a ymosodai ar wragedd feichiog a phlant.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. H. W. F. Saggs, The Babylonians (Llundain, 1962; argraffiad newydd 1988, Thames & Hudson), tud. 237.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato