Laramie
Dinas yn Wyoming, Unol Daleithiau America, yw Laramie. Fe'i lleolir yn Albany County ne-ddwyrain Wyoming, ar lan Afon Laramie; mae'n brifddinas y sir. Sefydlwyd y ddinas yn 1868 pan gyrhaeddodd Rheilffordd yr Union Pacific. Mae'n ganolfan ddiwydiannol a masnachol mewn ardal sy'n adnabyddus am fagu gwartheg, tyfu coed a mwyngloddio. Mae ganddi boblogaeth o 27,204 o bobl.
Math | dinas yn yr Unol Daleithiau, tref ddinesig |
---|---|
Enwyd ar ôl | Jacques La Ramee |
Poblogaeth | 31,407 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Brian Harrington |
Cylchfa amser | UTC−07:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Albany County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 47.151465 km², 45.994386 km² |
Uwch y môr | 2,184 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Laramie |
Cyfesurynnau | 41.3111°N 105.5936°W |
Cod post | 82070–82073, 82070, 82071 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Mayor of Laramie, Wyoming |
Pennaeth y Llywodraeth | Brian Harrington |
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan Dinas Laramie