TAG Safon Uwch

(Ailgyfeiriad o Lefel-A)

Cymhwyster Tystysgrif Addysg Gyffredinol yn seiliedig ar bwnc penodedig yw TAG Safon Uwch[1] (Saesneg, GCE Advanced Level neu Level A). Mae'n bodoli yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon, ac mae'n gymhwyster sy'n cael ei astudio fel rheol yn nwy flynedd olaf dewisol yr ysgol uwchradd (blynyddoedd 12 a 13, fel arfer oedran 16-18), yn y cyfnod a elwir yn gyffredinol yn Chweched ddosbarth, neu mewn coleg chweched ddosbarth neu coleg addysg uwch, ar ôl iddynt gyflawni eu harholiadau Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd (TGAU) neu Tystysgrif Gyffredinol Rhyngwladol Addysg Uwchradd (TGRhAU). Adnabyddir y cymhwyster yn fyd eang ac fe'i defnyddir fel un o'r cymwysterau ar gyfer mynd i'r brifysgol.

TAG Safon Uwch
Mathdiploma Edit this on Wikidata
Rhan oGeneral Certificate of Education Edit this on Wikidata

Yn yr Alban, mae myfyrwyr fel arfer yn cymryd arholiadau Higher' a'r Advanced Higher, sy'n ran o Dystysgrif cymwysterau yr Alban. Ond, mae lleiafrif bychan o ysgolion yn cynnig TAG Safon Uwch fel dewis arall; ysgolion preifat yw'r rhain fel arfer.

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato